Mae’r penderfyniad i symud cerrig beddi i greu lle i dramwyfa sy’n arwain tuag at faes parcio i wyth o geir yn dangos “ansensitifrwydd affwysol”, yn ôl un o gynghorwyr Powys.

Cafodd Ymddiriedolaeth Neuadd Efengylaidd Dolafon ganiatâd gan Gyngor Powys fis Mehefin y llynedd i adeiladu’r maes parcio a thramwyfa’n arwain tuag ato ar safle Capel Bethany yng Ngheri yn Sir Drefaldwyn.

Dydy’r capel heb fod ar agor ers troad y ganrif, a chafodd y cynlluniau i newid defnydd y tir ger y capel eu cymeradwyo er gwaethaf gwrthwynebiad sefydliad archaeolegol, ac adrannau a swyddogion y Cyngor.

Er gwaetha’r pryderon, dywedodd yr Ymddiriedolaeth eu bod nhw am gydweithio â’r gymuned er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau â’r “parch a’r urddas mwyaf”.

Ond dywed teuluoedd nifer o bobol sydd â’u beddi yn y fynwent na chawson nhw wybod am y cynlluniau, ac nad ydyn nhw’n gwybod ble mae cerrig beddi eu hanwyliaid.

‘Ydyn ni mor brin o dir ym Mhowys…?’

Dywed Elwyn Vaughan, sy’n cynrychioli Glantwymyn ar Gyngor Powys, fod teuluoedd wedi bod yn cysylltu â fe er mwyn ceisio atebion gan y Cyngor ynghylch eu penderfyniad, a bod y sefyllfa’n dangos “ansensitifrwydd affwysol”.

“Mae trigolion, yn naturiol ddigon, yn poeni a than straen o weld y gwaith yn cael ei wneud,” meddai.

“Mae’n dangos ansensitifrwydd llwyr i deuluoedd a ffrindiau er mwyn creu lle i barcio i wyth o geir.

“Mae’r potensial ar gyfer mynediad ar wahân oddi ar y briff ffordd sy’n pasio drwodd allai fod wedi cael ei defnyddio.

“Ydyn ni mor brin o dir ym Mhowys fel bod rhaid i ni adeiladu ar fynwentydd?”

Dydy Cyngor Powys ddim wedi ymateb hyd yn hyn, medd y Powys County Times, ond dywed yr Ymddiriedolaeth fod trafodaethau ar y gweill ac mai eu “blaenoriaeth” yw bod yn “gymdogion da i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu”.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud bod caniatâd wedi cael ei roi i ddatblygu’r tir cyn iddyn nhw brynu’r safle ac y bydd y gwaith yn diwallu anghenion addolwyr lleol.