Mae Mykola Kukharevych, ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, yn galw ar y byd gwaraidd am gymorth i ddod â’r rhyfel yn Wcráin i ben.

Daw ei neges ar gyfryngau cymdeithasol y clwb wrth i’w famwlad nodi 32 o flynyddoedd ers iddi ddod yn annibynnol o’r hen Undeb Sofietaidd.

Ond fydd dim dathliadau swyddogol yn y brifddinas Kyiv, wrth i’r wlad barhau i fyw dan gysgod y rhyfel â Rwsia.

Ymunodd Kukharevych â’r Elyrch y tymor hwn, ac mae’r clwb wedi dangos eu cefnogaeth iddo drwy gyhoeddi neges yn nodi’r diwrnod, ynghyd â chyfweliad fideo gyda’r chwaraewr.

“Mae hi mor anodd,” meddai am y rhyfel.

“Rydych chi bob amser yn meddwl am y sefyllfa, sut mae’n mynd.

“Rydych chi bob amser yn darllen y newyddion.

“Dw i jyst eisiau dweud bod y rhyfel yn dal i fynd, dydy e ddim ar ben.

“Mae’n rhaid i’r byd gwaraidd ei stopio mor gyflym â phosib er mwyn galluogi pobol i fyw bywyd arferol.”

Digwyddiad yn y ddinas

Yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Awst 24), bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Abertawe i nodi’r diwrnod.

Bydd y gymuned yn dod ynghyd yn Sgwâr y Castell “er mwyn teimlo undod Wcreiniaid yng Nghymru”.

Bydd baner Wcráin yn hedfan, a bydd cyfle i gael blas ar gerddoriaeth, dawnsfeydd, crefftau a bwydydd traddodiadol.

Bydd holl elw’r digwyddiad yn cael ei ddefnyddio i anfon nwyddau meddygol i Wcráin.

‘Sefyll gydag Wcráin’

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi anfon neges at Wcreiniaid.