Mae adroddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru’n dangos bod un ym mhob pedwar o ddyfarnwyr yng Nghymru wedi cael eu camdrin yn gorfforol.

Cafodd arolwg ei gynnal, a daeth 282 o ymatebion gan ddyfarnwyr a swyddogion gemau, ac roedd 88% ohonyn nhw wedi cael eu sarhau’n eiriol ar ryw adeg yn ystod eu gyrfaoedd yn dyfarnu.

Roedd dros 50% yn teimlo bod ymddygiad pobol yn y byd pêl-droed tuag at ddyfarnwyr yn gwaethygu, ac mae nifer sylweddol bellach wedi troi eu cefn ar y gêm.

‘Angen newid diwylliant’

Un sydd wedi troi cefn yw Sean Regan, sy’n ddarlithydd, yn hyfforddwr ac yn gyn-ddyfarnwr.

“Fe wnaeth e fy rhoi i mewn sefyllfa oedd wedi fy ngorfodi i benderfynu na fyddwn i’n parhau i ddyfarnu,” meddai.

“Fe wnaeth e fy ngorfodi i gwestiynu a yw’n werth e mewn gwirionedd.

“Dw i’n teimlo bod angen newid diwylliant.

“Fydd gyda ni ddim pêl-droed, pêl-droed ar lawr gwlad nac unrhyw gamp arall heb swyddogion.

“Mae angen i ni ymddwyn ar ochr y cae yn y ffordd rydyn ni’n credu y dylen ni ymddwyn wrth gerdded i lawr y stryd neu yn ein swyddfa.

“Mae holl aelodau’r teulu pêl-droed yn esiamplau i’n chwaraewyr, ac mae angen i ni gadw hynny mewn cof drwy’r amser.”

Prinder dyfarnwyr

Mae penderfyniad dyfarnwyr i adael y byd pêl-droed yn cael effaith hynod andwyol ar y gamp ledled Cymru.

Does dim digon o ddyfarnwyr ar hyn o bryd i sicrhau bod swyddogion ar gael i ddyfarnu pob gêm yn y wlad.

O ganlyniad, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chymdeithasau lleol yn cyflwyno camau i leihau achosion o gamdriniaeth ac i wella disgyblaeth er mwyn ceisio denu rhagor o ddyfarnwyr eto.

Mae’r camau sy’n cael eu treialu’n cynnwys anfon pobol o’r cae dros dro mewn achosion o gamdrin swyddogion, a bandiau braich melyn i ddyfarnwyr ifainc eu gwisgo er mwyn dangos eu bod nhw o dan 18 oed.

Mae pob swyddog hefyd yn derbyn canllawiau cynhwysfawr ynghylch sut i adrodd am gamdriniaeth wrth ddyfarnu.

Mwy o fenywod yn troi cefn

“Mae cyfraddau cadw isel iawn mewn dyfarnu, sydd heb fod yn unigryw i Gymru ond ar draws yr holl wledydd,” meddai Ceri Williams, Swyddog Datblygu Dyfarnwyr Benywaidd cyntaf Cymru, sydd hefyd yn dyfarnu.

“Mae hyn o ganlyniad i’r gamdriniaeth gyffredinol y gallwch chi ei wynebu fel dyfarnwr.

“Ond dw i’n credu bod y cyfraddau camu i ffwrdd yn sylweddol uwch ymhlith menywod am y rheswm hwnnw, a dyna pam fod cyflwyno camau sy’n cynnig cefnogaeth ac yn helpu i gadw [dyfarnwyr] mor bwysig.

“Byddwn i’n aml yn cael sylwadau fel ‘Cer yn ôl i’r gegin’ neu ‘Cer adref i dy ŵr’.

“Yn seicolegol, dw i’n credu bod sylwadau personol weithiau’n fwy anodd ymdopi â nhw gan eu bod nhw’n fy nhargedu gan fy mod i’n fenyw.

“Rydyn ni’n gweld llawer o ferched yn camu i ffwrdd o’r gêm am y rheswm hwnnw, ac mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael rhwydwaith o gefnogaeth y bydd Academi Dyfarnwyr Cynghreiriau Adran yn ei ddarparu, a chyfle i ddysgu gan y rhai sydd wedi profi hyn.”

Academi i ddyfarnwyr

Trwy nawdd gan FIFA, mae Cymdeithas Bêl-droed wedi cyflwyno Academi Dyfarnwyr Cynghreiriau Adran, fydd yn recriwtio ac yn helpu dyfarnwyr i wasanaethu gêm y merched sy’n tyfu mor gyflym.

Mae mwy na 130 o fenywod a merched eisoes wedi cofrestru ar gyfer gweithdai cyflwyniad i ddyfarnu.

Dim ond 50 o fenywod sydd wedi’u cofrestru i ddyfarnu yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae niferoedd uchel y menywod a merched sy’n cofrestru ar gyfer rhaglenni yn tynnu sylw at greu rhaglenni penodol ar eu cyfer nhw.

Un rheswm posib arall yw amlygrwydd Cheryl Foster o Gymru, sydd wedi bod yn dyfarnu yng Nghwpan y Byd.

“Mae canlyniadau pryderus yr arolwg yn dangos pa mor bwysig yw hi fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r teulu pêl-droed ehangach yn mynd i’r afael â chamdriniaeth mae dyfarnwyr yn ei wynebu,” meddai Jack Rea o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n gyfrifol am recriwtio a chadw dyfarnwyr.

“Mae parchu’r rheiny ar draws y gêm gyfan yn allweddol i hyn, a dim ond trwy gydweithio mae modd gwireddu hyn.

“Er gwaethaf camdriniaeth mae dyfarnwyr yn ei wynebu, mae gyda ni ddyfarnwyr gwych ledled Cymru, diolch byth, ac maen nhw’n parhau yn y byd pêl-droed o ganlyniad i’w cariad at y gêm a’u rôl allweddol ynddi.

“Yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru a ledled y cymdeithasau rhanbarthol, rydyn ni’n recriwtio’r niferoedd uchaf erioed o swyddogion gemau, gyda diddordeb digynsail mewn dyfarnu ymhlith menywod a merched.

“Mae cadw’r dyfarnwyr hyn, felly, yn allweddol ac er mwyn gwireddu hyn mae’n rhaid i ni sicrhau ymddygiad teg a pharchus er mwyn cryfhau’r gêm ar y cyfan.”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi creu ‘Gwerthoedd PAWB’, sef ymgyrch i dynnu sylw at eu gwerthoedd craidd, megis parch, rhagoriaeth a theulu.

Mae egwyddorion ‘REF’ yn tynnu sylw at bwysigrwydd parchu pawb o fewn y gamp, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dweud eu bod nhw’n allweddol er mwyn tyfu’r gêm ledled Cymru.