Mae gan faswr tîm rygbi Cymru “emosiynau cymysg” wrth ffarwelio â rygbi rhynglwadol, ar ôl 14 mlynedd gyda’r tîm cenedlaethol.

Cyhoeddodd Elinor Snowsill ddoe (dydd Mawrth, Awst 22) ei bod hi’n ymddeol o rygbi proffesiynol, a hithau wedi ennill 76 o gapiau dros ei gwlad.

Chwaraeodd mewn pedwar Cwpan Byd, gan ymddangos am y tro cyntaf dros Gymru yn 2009.

Bydd hi’n gadael y garfan er mwyn dechrau swydd hyfforddi gyda Met Caerdydd, sy’n swydd ddelfrydol iddi, meddai.

Bu’r maswr o Gaerdydd, sy’n 34 oed, yn chwarae dros glybiau Harlequins Caerdydd a’r Dreigiau, cyn treulio unarddeg o flynyddoedd yn chwarae i’r Bristol Bears.

“Yn amlwg, dw i’n drist i fod yn gadael y sgwad ar amser rili sbesial i’r tîm,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n adeiladu rhywbeth sbesial, ac mae pethau’n eithaf cyffrous ar y foment.

“Felly ychydig bach yn drist o ran hynna, ond rili edrych ymlaen i’r swydd newydd dw i wedi cael cynnig.

“Mae hi wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Met Caerdydd, a bydd hi’n sefydlu un o’r canolfannau datblygu chwaraewyr i’r Undeb, yn datblygu talent a gobeithio ffeindio sêr y dyfodol.

“Daeth y swydd lan, os byddech chi wedi gofyn i fi flynyddoedd yn ôl pa swydd fyddwn i eisiau ei gwneud ar ôl chwarae rygbi, dyma’r union fath o swydd.

“Dyw swyddi fel yma o fewn rygbi merched ddim yn dod lan yn aml iawn o gwbl, felly doeddwn i methu troi lawr y cyfle i gymryd y swydd, yn gwybod fy mod i’n mynd i orffen yn y blynyddoedd nesaf beth bynnag.”

Mae cael parhau i fod ynghlwm â’r gêm am wneud yr ymddeoliad “ychydig bach yn haws”, meddai, gan ddiolch i’w theulu am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.

“Mae e’n rywbeth dw i wastad wedi bod eisiau gwneud, ac yn rhywbeth dw i wedi bod yn meddwl amdano dros y blynyddoedd,” meddai.

“Yn bendant, bydda i dal ynghlwm â’r gêm… os byswn i’n mynd i swydd mewn swyddfa ble fi ddim rili’n joio fe, byddai hynna’n gwneud ymddeol lot yn anoddach!”

Uchafbwyntiau

Y llynedd, roedd Elinor Snowsill ymhlith y deuddeg o chwaraewyr cyntaf i gael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru.

“Ers cael y cytundebau, rydyn ni wedi bod yn dechrau rhoi perfformiadau at ei gilydd fel tîm a dechrau ennill,” meddai.

“Y Chwe Gwlad olaf, ond yn bendant y gêm olaf yn erbyn yr Eidal wnaeth helpu ni i gyrraedd chweched yn y byd, roedd honna’n gêm anhygoel a bendant yn uchafbwynt i fi.

“Mae cwpwl o bethau’n sefyll mas, roedd chwarae saith bob ochr yng Ngemau’r Gymanwlad yn brofiad anhygoel a rhywbeth mwy na jyst rygbi.

“Wedyn, chwarae i dîm y Barbariaid draw yn yr Unol Daleithiau – cael y cyfle i chwarae efo sêr o wledydd eraill ar draws y byd. Roedd hwnna’n brofiad anhygoel.”