Mae tîm criced Morgannwg wedi ennill eu gêm 50 pelawd olaf yng Nghwpan Metro Bank yn erbyn Swydd Northampton o bum wiced, diolch i ganred Sam Northeast (100), ar y diwrnod y daeth awgrym fod y capten David Lloyd wedi chwarae ei gêm olaf i’r sir Gymreig.

Bydd y gogleddwr amryddawn yn gadael Morgannwg yn barhaol ar ddiwedd y tymor ac yn ymuno â Swydd Derby, lle mae e wedi treulio cyfnod ar fenthyg ar gyfer Cwpan Metro Bank.

Er mai’r gobaith oedd y byddai’n dychwelyd i Forgannwg wrth iddyn nhw geisio ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, mae Lloyd wedi torri asen ac felly mae’n debygol na fydd e’n chwarae am weddill y tymor.

Gyda’r troellwyr Andrew Salter a Callum Taylor eisoes wedi gadael Morgannwg, mae ymadawiad Lloyd yn cwblhau cyfres o ergydion trwm i’r sir sydd wedi’i chael hi’n anodd yn y gemau undydd eleni.

Yr ergyd drom yn y tymor byr yw methu â chymhwyso ar gyfer rowndiau ola’r twrnament hwn – rhywbeth oedd y tu hwnt i’w gafael cyn i’r un belen gael ei bowlio heddiw.

Ond fe wnaeth cyfraniadau eraill o 50 gan Eddie Byrom, 69 gan Colin Ingram a phartneriaeth allweddol rhwng Billy Root (39 heb fod allan) ac Alex Horton (44 heb fod allan) selio’r fuddugoliaeth yn pen draw wrth i Forgannwg gwrso nod sylweddol o 341.

Dyma’r ail sgôr uchaf iddyn nhw ei gwrso’n llwyddiannus yn hanes gemau undydd y sir.

Manylion y gêm

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, fe wnaeth batwyr Swydd Northampton gosbi bowlwyr Morgannwg ar ddechrau’r batiad.

Gyda diffyg bowlwyr ymosodol digon da i roi pwysau ar yr ymwelwyr, cafodd Morgannwg gyfnod clatsio hesb wrth i’r Saeson gyrraedd 60 heb golli wiced yn eu deg pelawd agoriadol, wrth i Sam Whiteman fynd yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred ar gyfradd o rediad y belen ar ôl taro pum pedwar a dwy chwech.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Whiteman a’i bartner agoriadol Ricardo Vasconcelos gyrraedd y garreg filltir o bartneriaeth o 100, gyda bowlwyr Morgannwg yn cael eu cylchdroi wrth chwilio am y wiced hollbwysig – er, rhaid cwestiynu doethineb y capten a throellwr Kiran Carlson i fowlio mor gynnar yn y batiad pan fyddai wedi gallu troi at droellwyr mwy cydnabyddedig.

Troellwr arall, y Cymro ifanc Ben Kellaway, dorrodd y bartneriaeth allweddol yn y pen draw wrth i Carlson gipio chwip o ddaliad acrobataidd wrth i Sam Whiteman dynnu’r bêl tuag at ochr y goes. Roedd y Saeson erbyn hynny’n 141 am un ar ôl 22.4 pelawd.

Roedd y Saeson yn 152 am un erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, wrth i Vasconcelos gyrraedd ei hanner canred oddi ar 64 o belenni ar ôl taro pum pedwar ac un chwech, gyda’r cymylau duon yn bygwth ar y gorwel.

Os oedd y cymylau’n bygwth, roedd bowlwyr Morgannwg yn dechrau edrych yn fwy bygythiol o lawer, wrth i’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya gipio’r ail wiced pan gipiodd Jamie McIlroy ddaliad i waredu Justin Broad am naw, a’r ymwelwyr yn 159 am ddwy yn yr wythfed pelawd ar hugain.

Os oes gwirionedd yn yr hen feddylfryd fod angen dyblu’r sgôr ar ôl 30 pelawd i ddarogan y sgôr terfynol ar ôl 50 pelawd, yna byddai Morgannwg wedi bod yn wynebu cwrso sgôr dros 330 er mwyn ennill y gêm, wrth i’r Saeson gyrraedd 168 am ddwy gydag ugain pelawd ola’r batiad i ddod.

Roedden nhw’n 211 am ddwy bedair pelawd yn ddiweddarach wrth i’r glaw ddod i orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae ar ôl 34.1 pelawd, ond dim ond am ryw 25 munud.

Parhau i roi pwysau ar Forgannwg wnaeth y batwyr wedi’r egwyl am law, wrth i Rob Keogh gyrraedd ei hanner canred oddi ar 44 o belenni yn niwedd pelawd rhif 41, gyda’i dîm erbyn hynny’n 259 am ddwy.

Gallai Keogh fod wedi cael ei ddal gan Colin Ingram yn safle’r goes fain oddi ar fowlio Jamie McIlroy ar 57, ond collodd y maeswr olwg ar y bêl wrth i’r batwyr barhau i gosbi Morgannwg, gyda chanred Vasconcelos yn dod oddi ar 110 o belenni ar ôl taro unarddeg pedwar ac un chwech.

Collodd ei wiced yn fuan wedyn, wedi’i fowlio oddi ar belen syth a llawn gan Ruaidhri Smith am 106, a chyrhaeddodd Keogh ei ganred yntau cyn cael ei ddal gan Billy Root oddi ar fowlio Andy Gorvin, cyn i’r bowliwr fowlio Lewis McManus oddi ar y belen ganlynol i adael yr ymwelwyr yn 327 am bump yn y belawd olaf ond un.

Mynydd i’w ddringo

Gyda mynydd i’w ddringo er mwyn ceisio cyrraedd y nod o 341, dechreuodd Morgannwg eu batiad yn gadarn, wrth i’r agorwyr Sam Northeast ac Eddie Byrom lwyddo i oroesi’r deg pelawd agoriadol a chyrraedd 77 heb golli wiced.

Daeth hanner canred y ddau fatiwr o fewn dim o dro – trydydd Byrom o’r bron – wrth iddyn nhw gyrraedd 108 cyn i Byrom gael ei ddal oddi ar belen rhif 33 ei fatiad gan y wicedwr Lewis McManus oddi ar fowlio James Sales am 50.

Roedd Morgannwg ar y blaen i’r gyfradd ofynnol ar ôl ugain pelawd, wedi iddyn nhw gyrraedd 157 am un, gyda Colin Ingram bellach yn edrych yn gartrefol wrth chwarae ail feiolin i Northeast – er bod ganddyn nhw gryn waith i’w wneud o hyd.

Cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred oddi ar 44 o belenni, ac erbyn hynny roedd angen 140 yn rhagor ar Forgannwg i ennill oddi ar 22 pelawd, gyda Northeast ben draw’r llain yn closio at ei ganred ar 94 heb fod allan.

Daeth canred Northeast oddi ar 103 o belenni, gan gynnwys unarddeg pedwar a dwy chwech, cyn iddo fe gael ei fowlio gan Jack White ddwy belen yn ddiweddarach i adael Morgannwg yn 216 am ddwy ganol pelawd rhif 32.

Cipiodd Swydd Northampton wiced fawr Colin Ingram am 69 pan gafodd ei ddal gan Tom Taylor oddi ar ei fowlio’i hun, gyda Morgannwg bellach yn 243 am dair ym mhelawd rhif 36 ac roedd hi’n ymddangos fel pe bai’r rhod yn dechrau troi o blaid y Saeson unwaith eto.

Cyn i Carlson a Billy Root allu adeiladu’r bartneriaeth oedd ei hangen arnyn nhw, tynnodd Carlson y bêl at James Sales oddi ar fowlio Tom Taylor am 28, cyn i Alex Russell daro coes Ben Kellaway o flaen y wiced, gyda Morgannwg yn 262 am bump a’u gobeithion yn pylu.

Tro yn y gynffon

Roedden nhw’n 265 am bump ar ôl 40 pelawd, oedd yn golygu mai 76 rhediad oedd eu hangen arnyn nhw oddi ar 60 pelen ola’r ornest, gyda Billy Root wrth y llain fel y batiwr cydnabyddedig olaf yn gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb ben draw’r llain i’r wicedwr ifanc Alex Horton.

Gyda chwe phelen lwyddiannus ym mhelawd rhif 43, gan gynnwys ergydion chwech a phedwar gan Horton, llwyddodd Morgannwg i ostwng y gyfradd ofynnol i rediad y belen yn y chwe phelawd olaf ac fe selion nhw’r fuddugoliaeth yn ddigon hawdd o’r fan honno.