Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Swydd Northampton i Gaerdydd ar gyfer gêm 50 pelawd olaf Cwpan Metro Bank yng Nghaerdydd heddie (dydd Mawrth, Awst 22).

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn erbyn Gwlad yr Haf yn eu gêm ddiwethaf dros y penwythnos, wrth i Eddie Byrom daro canred yn erbyn ei hen sir, tra bod Kiran Carlson wedi taro 75 a Billy Root 74 heb fod allan er mwyn selio’r fuddugoliaeth o ddwy wiced.

Mae Morgannwg yn bedwerydd, driphwynt y tu ôl i Swydd Gaerloyw, tra bod Swydd Northampton wedi colli tair gêm o’r bron er mwyn dod â’u gobeithion nhw i ben hefyd.

Dydy record ddiweddar Morgannwg yn erbyn Swydd Northampton ddim yn argoeli’n dda.

Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn y sir yn 2021, a hynny o 59 rhediad yn Northampton ar ôl i Hamish Rutherford (86) a Tom Cullen (58 heb fod allan) serennu gyda’r bat wrth i’r sir Gymreig sgorio 295 am chwech cyn i Michael Hogan gipio tair wiced am 26 a Joe Cooke dair wiced am 32.

Cyn hynny, doedd Morgannwg ddim wedi ennill gêm 50 pelawd yn Northampton ers 2008.

Callum Taylor

Yn y cyfamser, mae Callum Taylor wedi cyhuddo Morgannwg o “gamreolaeth”.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ei fod e wedi gadael y sir ar unwaith, ac yn bwriadu dychwelyd i Awstralia, lle cafodd ei fagu.

Wrth ddiolch i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth, dywedodd nad oedd cael ei “gamreoli ac eistedd ar y cyrion yn gyson yn ei gwneud hi o ran fy nodau a’m dyheadau o chwarae ar y lefel uchaf”.

Dywedodd fod angen “newid” arno er mwyn gyrru ei yrfa yn ei blaen.

Carfan Swydd Northampton: L McManus (capten), H Azad, J Broad, R Keogh, S Kerrigan, G Miller, L Procter, A Russell, J Sales, T Taylor, R Vasconcelos, J White, S Whiteman

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, A Gorvin, T Bevan, S Northeast, R Smith, Zain ul-Hassan, P Sisodiya, J McIlroy, A Horton, C Ingram, T van der Gugten, E Byrom

Sgorfwrdd