Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru, wedi enwi dau gapten ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd fis nesaf.

Bydd y bachwr Dewi Lake a Jac Morgan, y chwaraewr rheng ôl, yn rhannu’r cyfrifoldeb yn Ffrainc.

Mae 33 o chwaraewyr wedi’u henwi – 19 blaenwr ac 14 o olwyr, ac mae 17 ohonyn nhw wedi chwarae yng Nghwpan y Byd o’r blaen.

Yn eu plith mae’r canolwr George North, fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y pedwerydd tro.

Ymhlith y chwaraewyr profiadol eraill yn y garfan mae’r maswr Dan Biggar, y mewnwr Gareth Davies, y prop Tomas Francis, y blaenasgellwr Dan Lydiate, a’r cefnwyr Leigh Halfpenny a Liam Williams.

Ymhlith y chwaraewyr lleiaf profiadol yn y garfan mae’r ddau brop Corey Domachowski a Henry Thomas a’r clo Dafydd Jenkins, y chwaraewr ieuengaf yn y garfan.

Y rhai sydd wedi’u hepgor ar ôl cwtogi’r garfan yw Kieron Assiratti, Ben Carter, Rhys Davies, Kemsley Mathias, Sam Parry, Taine Plumtree, Teddy Williams, Alex Cuthbert, Cai Evans, Kieran Hardy, Max Llewellyn, Joe Roberts, Tom Rogers, Kieran Williams ac Owen Williams.

Fe wnaeth pobol ar lawr gwlad ym mhob cwr o’r genedl gyhoeddi’r enwi mewn fideo oedd yn dangos llefydd nodedig yng Nghymru a lluniau o’r chwaraewyr pan oedden nhw’n iau.

Egluro’r penderfyniadau

Roedd 48 o chwaraewyr yn y garfan baratoadol, ac mae Warren Gatland yn dweud eu bod nhw wedi bod yn “rhagorol” o ran eu hagwedd a’u hymdrechion.

Cyn y twrnament, bu’n rhaid iddo gwtogi’r nifer i 33, sydd wedi bod yn “anodd iawn”, meddai, gyda rhai wedi cael eu dewis o drwch blewyn.

Dywed fod y 33 yn cynnig “cyfuniad da yn nhermau talent a phrofiad”.

Yng Ngrŵp C, bydd Cymru’n herio Ffiji (Bordeaux, Medi 10), Portiwgal (Nice, Medi 16), Awstralia (Lyon, Medi 24) a Georgia (Nantes, Hydref 7).

Y garfan

Blaenwyr

Taine Basham, Adam Beard, Elliot Dee, Corey Domachowski, Ryan Elias, Taulupe Faletau, Tomas Francis, Dafydd Jenkins, Dewi Lake (cyd-gapten), Dillon Lewis, Dan Lydiate, Jac Morgan (cyd-gapten), Tommy Reffell, Will Rowlands, Nicky Smith, Gareth Thomas, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Aaron Wainwright

Olwyr

Josh Adams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Sam Costelow, Gareth Davies, Rio Dyer, Mason Grady, Leigh Halfpenny, George North, Louis Rees-Zammit, Nick Tompkins, Johnny Williams, Liam Williams, Tomos Williams