Mae Ben Foster, golwr tîm pêl-droed Wrecsam, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl pedair gêm y tymor hwn.

Daw ei gyhoeddiad ddyddiau’n unig ar ôl gêm gyfartal 5-5 yn erbyn Swindon, pan siaradodd e â’r rheolwr Phil Parkinson am ei ddyfodol gan benderfynu na fu ei berfformiadau’r tymor hwn yn ddigon da.

Dywed ei fod e wedi gwneud y penderfyniad hwn er ei les ei hun a lles y clwb.

Fe ddychwelodd i’r clwb ar Fawrth 23 ar gytundeb byr ddaeth i ben ddiwedd y tymor diwethaf, gan ymestyn ei gytundeb ymhellach cyn dechrau’r tymor hwn.

Mae e wedi chwarae deuddeg o weithiau i’r clwb ers mis Mawrth.

Mae Phil Parkinson wedi diolch i gyn-reolwr Lloegr am ei gyfraniad i’r clwb, gan gynnwys eu helpu nhw i ennill dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed.