Mae’r Cymro Callum Taylor wedi gadael Clwb Criced Morgannwg.

Daw ymadawiad y chwaraewr amryddawn o Gasnewydd, gafodd ei fagu yn Awstralia, yn fuan ar ôl ymddeoliad y troellwr Andrew Salter o Sir Benfro, ac ymadawiad David Lloyd, y capten o Wrecsam, fydd yn ymuno â Swydd Derby y tymor nesaf.

Daeth gêm gyntaf Taylor yn 2019 mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Essex yng Nghaerdydd.

Mae e wedi chwarae 34 o weithiau i’r sir ar draws y tair fformat, a’r chwaraewr 25 oed oedd y pedwerydd yn hanes y sir i daro canred yn ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf i’r sir, ar ôl cyrraedd y garreg filltir oddi ar 88 o belenni oddi cartref yn Swydd Northampton yn 2020.

Cyrhaeddodd ei ganred gydag ergyd chwech, gan sgorio 106 oddi ar 94 o belenni.

Roedd yn gapten ar yr ail dîm yn 2023, gan arwain ei dîm i rownd derfynol y gystadleuaeth ugain pelawd, a sgorio 41 heb fod allan wrth i Forgannwg golli o bum rhediad yn erbyn Swydd Derby.

Chwilio am gyfleoedd eraill

Dywed Callum Taylor ei fod e’n “ddiolchgar” am y cyfle i chwarae i Forgannwg.

“Rhoddodd Morgannwg fy nghyfle cyntaf i fi fod yn gricedwr proffesiynol, a dw i’n wirioneddol ddiolchgar am y profiad,” meddai.

“Mae fy ngyrfa wedi cyrraedd croesffordd, a dw i’n teimlo er mwyn parhau i ddatblygu fel cricedwr fod angen i fi chwilio am her newydd a dychwelyd i fy ngwlad fabwysiedig, Awstralia.

“Fe fu yng nghefn fy meddwl dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd prinder amser yn y tîm cyntaf, ond dw i wedi magu profiad yn y gêm sirol, ac wedi gwerthfawrogi cefnogaeth ffyddloniaid Morgannwg, a’r cyfeillgarwch gyda chyd-chwaraewyr.

“Er nad dyma’r ffordd y gwnes i ragweld fy nhaith gyda Morgannwg yn dod i ben, pan ddaeth cyfleoedd yn Awstralia roedd hi’n anodd eu gwrthod nhw.”

‘Ymfalchïo’n fawr’

“Fe weithiodd Callum ei ffordd o griced y gynghrair i’r gêm broffesiynol, ac fe all e ymfalchïo’n fawr yn yr hyn mae e wedi’i gyflawni yn y clwb,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Gyda chwaraewyr eraill yn torri drwodd, dyma’r adeg iawn i Callum geisio datblygu ei yrfa yn rhywle arall, ac rydym yn diolch iddo am ei gyfraniadau i’r clwb ar y cae ac oddi arno yn ystod ei amser yma.

“Hoffem ddymuno’n dda i Callum ar gyfer ei ymdrechion yn y dyfodol, lle bynnag yn y byd y bydd y rheiny.”