O dan yr hen drefn, byddai tîm criced Morgannwg yn dal i lygadu lle yn rowndiau olaf Cwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd, ar ôl iddyn nhw guro Gwlad yr Haf ar eu tomen eu hunain yn Taunton.

Wyth tîm, neu’r pedwar uchaf ym mhob grŵp, a bod yn fanwl gywir oedd yn arfer cymhwyso ar gyfer rownd yr wyth olaf.

Ond mae’r ECB wedi newid y rheolau erbyn hyn fel eu bod yn nes at y Can Pelen, sef mai’r tri uchaf ym mhob grŵp sy’n cymhwyso, a’r ail a’r trydydd safle ym mhob grŵp yn chwarae yn erbyn ei gilydd am le yn y rownd gyn-derfynol.

Ond fel y mae hi, Swydd Warwick, Swydd Gaerwrangon a Swydd Gaerloyw sydd wedi cymhwyso, gyda Morgannwg yn bedwerydd ar yr un nifer o bwyntiau â Durham.

Mae’n golygu bod eu gêm olaf yn erbyn Swydd Northampton bellach am fod yn amherthnasol.

Curo Gwlad yr Haf

Gyda Morgannwg eisoes allan o’r gystadleuaeth yn sgil canlyniadau Swydd Gaerloyw a Swydd Gaerwrangon yn eu gemau blaenorol, daeth y pwysau oddi ar y sir Gymreig ac fe alluogodd hynny i Eddie Byrom chwarae â rhyddid wrth daro canred yn erbyn ei hen sir.

Yn sgil y fuddugoliaeth, byddai’r fuddugoliaeth o ddwy wiced yn Taunton ddoe (dydd Sul, Awst 20) wedi golygu bod y sir Gymreig yn mynd i mewn i’w gêm olaf yn erbyn Swydd Northampton ddydd Mawrth (Awst 22) yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw ar drothwy’r gêm olaf.

Dyma’r tro cyntaf i Byrom daro canred mewn gêm Rhestr A.

Sgoriodd Gwlad yr Haf 298 am saith ar ôl galw’n gywir a batio, wrth i’r agorwr Andy Umeed daro 116 oddi ar 136 o belenni, gan gynnwys naw pedwar a thair chwech.

Unwaith eto, bowliwr gorau Morgannwg oedd y troellwr ifanc Ben Kellaway, gyda thair wiced am 49.

Diolch i ganred Byrom – 108 oddi ar 103 o belenni – cyrhaeddodd Morgannwg y nod oddi ar 47.1 o belawdau ar ôl colli wyth wiced.

Sgoriodd y capten Kiran Carlson 75 mewn partneriaeth o 142 gyda Byrom, tra bod Billy Root wedi taro 74 heb fod allan.

Dyma drydedd buddugoliaeth Morgannwg yn y twrnament eleni.