Bydd rali ryngwladol yn dychwelyd i Geredigion unwaith eto ddechrau mis Medi.

Eleni, bydd Rali Ceredigion yn dechrau yn Aberystwyth ac yn cynnwys cymalau cystadleuol yn ardaloedd y Borth, Cwmerfyn, Cwmystwyth, Llanafan a Nant y Moch.

Caiff y rali ei threfnu’n breifat, ac yn ôl Cyngor Sir Ceredigion fe welodd y sector lletygarwch nifer uchel o ddefnyddwyr dros y penwythnos y llynedd.

Dywedon nhw hefyd fod y sylw ar y cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi adnoddau naturiol y sir ar y map, a bod hynny wedi bod o fudd i’r sector dwristiaeth yn ehangach.

Bydd y rali’n cael ei chynnal ar Fedi 2 a 3 eleni, ac mae’r Cyngor hefyd yn pwysleisio bod y trefnwyr yn sicrhau bod yr holl allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’r ceir sy’n cystadlu yn cael eu gwrthbwyso’n gyfrifol.

‘Llwyddiant ysgubol’

“Bydd digwyddiad ralïo 2023 yn adeiladu ar lwyddiant ysgubol y digwyddiad y llynedd, a ddenodd y gorau o dimau Prydain ynghyd â chriwiau rhyngwladol i’n sir ragorol,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae’r digwyddiad yn parhau i ddod â buddion economaidd i’r economïau twristiaeth a lletygarwch lleol yng Ngheredigion gyda nifer o fusnesau’r sir yn cyflogi gweithwyr yn y diwydiant hwn.

“Mae’r trefnwyr wedi ymrwymo’n llwyr i gyflwyno mesurau newydd i leihau effeithiau amgylcheddol y digwyddiad, ac ar hyn o bryd dyma’r unig ddigwyddiad ralïo yn y Deyrnas Unedig sy’n rhedeg i achrediad Rheolaeth Amgylcheddol FIA.

“Hoffem i bawb sy’n cymryd rhan, o’r cystadleuwyr i’r stiwardiaid, swyddogion a’r gwylwyr fwynhau mewn modd diogel a chyfrifol.”