Mae Joel Piroe wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Leeds am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Treuliodd e ddau dymor gydag Abertawe, gan sgorio 46 o goliau mewn 96 o gemau.

Daeth ei gôl olaf yn erbyn Northampton yng Nghwpan Carabao.

Roedd ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb, ac roedd yr Elyrch wedi cynnal trafodaethau gyda fe yn y gobaith o’i gadw.

Roedd Southampton, Everton a Chaerlŷr ymhlith y clybiau eraill oedd wedi mynegi diddordeb ynddo fe.

Roedd yr Elyrch wedi ei brynu am £1 o PSV, ac mae lle i gredu eu bod nhw wedi derbyn oddeutu £10m amdano fe.

Mae’r clwb wedi diolch iddo “am ei ymdrechion”.