Mae S4C wedi mwy na dyblu eu darllediadau byw o gemau pêl-droed menywod eleni.

Am y tro cyntaf erioed, maen nhw hefyd yn darlledu tair cystadleuaeth ddomestig ac un ryngwladol, sef Prif Adran Premier Genero, Tlws yr Adran Genero a Chwpan Cymru Bute Energy.

Maen nhw heyfd yn darlledu uchafbwyntiau gemau rhyngwladol Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Bydd tymor Adran Premier Genero yn cychwyn gyda gêm rhwng Wrecsam ac Abertawe ar Fedi 17, gyda’r gic gyntaf am 5.45yh.

Hon fydd gêm gyntaf Wrecsam yn y Brif Adran ar ôl ennill dyrchafiad y llynedd.

Y tîm cyflwyno

Bydd Sioned Dafydd yn cyflwyno, gyda’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Gwennan Harries a Katie Sherwood yn dadansoddi fel rhan o dîm Sgorio.

“Mae poblogrwydd gemau pêl droed menywod wedi cynyddu gymaint, ac mae’n wych fod S4C yn gallu adlewyrchu’r diddordeb a’r safon wych sydd yno ar draws gaeau pêl droed Cymru ar y sianel,” meddai Sioned Dafydd.

“Mae’n fraint enfawr cael bod yn rhan o dîm anhygoel Sgorio sydd mor frwdfrydig dros hybu gêm y menywod yma yng Nghymru.

“Mae’r gêm hon rhwng Wrecsam ac Abertawe am fod yn achlysur a hanner – gêm gyntaf Wrecsam yn y Brif Adran yn erbyn un o’r clybiau fwyaf llwyddiannus yn hanes y gynghrair, Abertawe.

“Dyma ddau dîm sydd yn cynnwys chwaraewyr safonol ac arbennig.

“Mae’n addo i fod yn dipyn o achlysur yn y Graig.”

‘Creu gêm gyfartal’

“Er mwyn creu gêm gyfartal, mae’n rhaid i bawb allu gweld gêm y menywod yn weladwy ar ein sgrîn, a bod merched ifanc yn gallu gweld eu hunain yn y gêm,” meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched a Menywod Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae ymrwymiad S4C i ddangos fwy o gemau eleni yn mynd i helpu ni i dyfu’r gêm dros y wlad.

“A gyda nifer o’r clybiau yn Adran Premier Genero yn symud i fod yn semi-pro, mi fydd y safon yn parhau i wella bob blwyddyn.

“Am gêm gyffrous i ddechrau!”

‘Llwyfan teilwng i’r chwaraewyr’

“Rydym ni’n falch iawn i roi mwy o sylw i bêl-droed menywod ar S4C,” meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C.

“Mae’r diddordeb yn y gêm yn tyfu, mae’r safon yn codi ac mae dyletswydd arnom ni i roi llwyfan teilwng i’r chwaraewyr.

“Law yn llaw â’r uchafbwyntiau o gemau rhyngwladol menywod Cymru, rydyn ni’n gobeithio y bydd S4C yn medru ysbrydoli mwy fyth o ferched i chwarae a dilyn pêl-droed.”

Bob nos Lun, bydd uchafbwyntiau un gêm o Brif Adran Genero i’w gweld ar raglen Sgorio.

Yn ogystal, bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau o bob un o chwe gêm Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd y tymor hwn, gan gychwyn gyda Gwlad yr Iâ v Cymru ar Fedi 22.