Mae gwleidyddion yng Nghatalwnia yn galw ar Heddlu Sbaen i ryddhau pedwar o ddynion gafodd eu harestio dros y penwythnos yn ystod ras feics La Vuelta.

Bu’r heddlu’n chwilio cartrefi’r pedwar sydd wedi’u hamau o gynllwynio protest o blaid annibyniaeth wrth i’r ras basio heibio Catalwnia.

Yn ôl llefarydd ar ran y mudiad annibyniaeth Alerta Solidària, cafodd cyfreithiwr y pedwar ei atal rhag ymweld â nhw cyn i’r heddlu eu holi am ddatganiad swyddogol.

Mae rali fawr wedi’i chynnal y tu allan i orsaf heddlu Verneda, lle daeth i’r amlwg fod y chwilio wedi para pedair awr a bod offer cyfrifiadurol wedi’i feddiannu gan yr heddlu.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yn union yw’r cyhuddiadau maen nhw’n eu hwynebu.

Mae Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol Junts per Catalunya, yn galw am ryddhau’r pedwar ar unwaith, gan fynnu nad yw protestio’n drosedd ac mae Marta Rovira o blaid Esquerra wedi ategu’r alwad.