Mae’r Seintiau Newydd wedi brolio record a gallu’r clwb wrth “gynhyrchu talent ar gyfer y gêm Seisnig”.
Daw hyn ar ôl i Adam Wilson ymuno â Bradford, sy’n chwarae yn Ail Adran Cynghrair Bêl-droed Lloegr, am ffi sy’n torri record y Seintiau Newydd.
Ers ymuno â’r clwb yn y Cymru Premier fis Medi y llynedd a chwarae yn ei gêm gyntaf ar Fedi 17, mae e wedi sgorio saith gôl mewn 23 o gemau.
Daeth ei gôl gyntaf yn y fuddugoliaeth o 6-2 dros y Fflint ddiwedd mis Medi, ac fe aeth y clwb yn ei flaen i ennill y Cymru Premier a Chwpan Cymru JD yn ystod ei gyfnod gyda nhw.
Enillodd e wobr Chwaraewr y Tymor y Cefnogwyr ar gyfer 2022-23.
Ymhlith y chwaraewyr mae e’n dilyn yn ôl eu traed mae Scott Quigley a Connell Rawlinson.
Canmol safon y gynghrair
“Mae hyn yn profi bod safon y Cymru Premier JD lawer yn uwch nag y mae’r gynghrair yn cael clod amdano,” meddai Mike Harris, cadeirydd y Seintiau Newydd.
“Hoffem ddiolch i Adam am ei wasanaeth dros y deuddeg mis diwethaf, ac rydym yn dymuno’n dda iddo ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol.
“Ar ôl mwynhau haf cynhyrchiol o ran trosglwyddiadau, rydym yn obeithiol o ychwanegu rhagor o chwaraewyr o safon uchel cyn i’r ffenest gau.”