Mae saith o fenywod rygbi Cymru wedi cael cytundebau proffesiynol llawn amser ar drothwy cystadleuaeth WXV yn Seland Newydd fis Hydref.

Y chwaraewyr sydd wedi cael cytundebau yw Courtney Keight, Hannah Bluck, Carys Williams-Morris, Abbey Constable, Kate Williams, Bryonie King a Megan Davies.

Bydd Jaz Joyce, sydd heb wisgo’r crys coch ers Cwpan y Byd y llynedd, a Kayleigh Powell yn dychwelyd i’r garfan ar gytundebau mewn partneriaeth â thîm saith bob ochr Prydain.

Gorffennodd Cymru’n drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, pan oedd gan y prif hyfforddwr Ioan Cunningham 24 o chwaraewyr proffesiynol yn y garfan.

Mae Cymru bellach yn chweched ar restr ddetholion y byd, ac mae’r cytundebau’n golygu bod ganddyn nhw 32 o chwaraewyr proffesiynol erbyn hyn.

Bydd Joyce, sydd wedi cystadlu ddwywaith yn y Gemau Olympaidd ac sydd wedi ennill 31 o gapiau dros Gymru, yn dychwelyd i’r tîm cenedlaethol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2022 yn Seland Newydd.

Mae’r asgellwr Carys Williams-Morris, sydd â statws athletwr elît yn yr awyrlu, bellach ar gytundeb llawn amser mewn partneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r awyrlu.

Enillodd Kate Williams, Bryonie King a’r prop Abbey Constable eu capiau cyntaf dros Gymru yn ystod y Chwe Gwlad eleni, tra bo’r canolwr Hannah Bluck, wedi ennill wyth cap dros ei gwlad, a theirgwaith mae’r mewnwr Megan Davies wedi gwisgo’r crys coch hyd yma.

Fydd Keight na Powell ddim yn ymddangos yn y WXV gan eu bod nhw wedi’u hanafu.

Enillodd Cymru o 36-10 yn Yr Eidal yn Parma yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i goroni’r ymgyrch orau ganddyn nhw yn y Bencampwriaeth ers 14 o flynyddoedd.

Bydd tîm Ioan Cunningham yn wynebu’r Unol Daleithiau yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn, Medi 30 (2:30yp), mewn gêm baratoadol ar gyfer eu taith i Seland Newydd.

Gemau Cymru yn y WXV:

Canada v Cymru, dydd Sadwrn, Hydref 21, Stadiwm Sky, Wellington (4yp)

Seland Newydd v Cymru, dydd Sadwrn, Hydref 28, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (4yp)

Awstralia v Cymru, dydd Gwener, Tachwedd 3, Go Media Mount Smart Stadium, Auckland (7yh)

‘Buddsoddiad sylweddol’

“Rydym yn falch iawn o allu cynnig y cytundebau hyn i’r chwaraewyr,” meddai Ioan Cunningham.

“Mae’n fuddsoddiad sylweddol gan yr Undeb ac mae’n dangos y gwerth y mae Undeb Rygbi Cymru yn ei weld yn rygbi menywod.

“Dyma ddechrau ein trydydd tymor fel carfan broffesiynol ac rydym eisoes wedi gweld y manteision gyda’n perfformiadau yn y Chwe Gwlad a’r ffaith ein bod wedi hawlio’n lle yn haen uchaf y WXV, pan fyddwn yn chwarae timau gorau’r byd yn Seland Newydd.

“Mae’r chwaraewyr i gyd bellach yn deall yr hyn sydd ei angen i fod yn athletwr elitaidd ac mae cyhoedd Cymru wedi dangos eu bod yn gwerthfawrogi’r holl waith caled hwnnw.

“Dangoswyd hynny’n glir pan werthwyd pob tocyn ar gyfer gêm Lloegr yn y Chwe Gwlad.

“Mae ychwangeu mwy o chwaraewyr proffesiynol i’r garfan yn golygu ein bod yn cael mwy o amser i’w hyfforddi a gall hynny ond ein gwneud yn well tîm.

“Mae creu cystadleuaeth am lefydd yn y tîm wastad yn codi safonau ym mhob carfan ac rydym eisoes wedi elwa ar hynny dros y ddau dymor diwethaf.

“Rydym wedi gweld gwledydd eraill yn cynyddu nifer y chwaraewyr sydd o dan gontract hefyd ac mae’n rhaid i ni werthfawrogi a manteisio ar y ffaith bod cymaint o’cn chwaraewyr ni bellach yn athletwyr llawn amser.”

‘Diwylliant proffesiynol’

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y garfan hon yng Nghymru, ac rydym yn gwybod na all y tîm sefyll yn llonydd,” meddai Nigel Walker, Prif Weithredwr dros dros Undeb Rygbi Cymru.

“Er mwyn cystadlu gyda’r goreuon, mae’n rhaid eu hwynebu’n gyson ac er bo her y WXV yn sylweddol, mae hefyd yn gyffrous.

“Mae’r chwaraewyr wedi dangos gwerth y cytundebau hyn, yn ystod y Chwe Gwlad diwethaf.

“Mae Ioan, ei hyfforddwyr a’i staff wedi creu diwylliant proffesiynol ac mae’r chwaraewyr wedi deall yr hyn sydd ei angen i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol.

“Maen nhw’n amlwg yn mwynhau bod gyda’r garfan ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu ar y cae hefyd.

“Roedden ni i gyd wedi mwynhau a gwerthfawrogi sut wnaeth Ioan a’i chwaraewyr ddal dychymyg y cyhoedd y tymor diwethaf ac mae’r posibilrwydd o fesur eu hunain yn erbyn timau gorau’r byd yn Seland Newydd yn tynnu dŵr i’r dannedd.”