Mae Aelod o’r Senedd wedi cyhuddo Cyngor Caerffili o osgoi ateb cwestiynau ynghylch cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu trac rasio.
Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Plaid Cymru yn Nwyrain De Cymru, ysgrifennu at Gyngor Caerffili yn gofyn pam eu bod nhw wedi caniatáu i geisiadau cynllunio gael eu penderfynu tu ôl i ddrysau caëedig.
Mae’r ceisiadau’n ymwneud ag ehangu cyfleusterau yn Stadiwm Rasio Milgwn y Cwm yn Ystrad Mynach.
Yn ddiweddar, gwnaeth y stadiwm gais am ganiatâd i newid defnydd clwb pêl-droed athletaidd yn gytiau preswyl i filgwn, cadw a chwblhau estyniad, a chadw a chwblhau cenneli rasio ar un llaw.
Chafodd y materion mo’u trafod mewn cyfarfod cyhoeddus, ond yn hytrach fe gaethon nhw eu cymeradwyo gan swyddogion y Cyngor gan ddefnyddio pwerau dirprwyedig.
‘Pryder am anifeiliaid’
Mewn llythyr at Sean Morgan, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, dywedodd Peredur Owen Griffith fod llawer o bobol yn pryderu am oblygiadau cynnal mwy o rasys ar y trac o ran lles anifeiliaid.
“Rydw i – a llawer o fy nghyd-aelodau Plaid Cymru – yn gwrthwynebu’n fawr ehangu’r cyfleuster hwn gan y byddai’n well gennym gael ei gau i lawr a’r ‘gamp’ wedi’i wahardd yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r farn hon hefyd yn cael ei rhannu gan nifer o fy nghyd-aelodau yn y Senedd ar draws y rhaniad gwleidyddol.”
Gofynnodd hefyd iddyn nhw esbonio pam fod y penderfyniad wedi cael ei wneud y tu ôl i ddrysau caëedig.
“Dylid rhoi craffu ar faterion sy’n denu sylw cyhoeddus enfawr mewn arena agored. Mae yna lawer o aelodau o’r cyhoedd a hoffai fod wedi dewis bod yn dyst i roi neu wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer rhywbeth o’r fath,” meddai.
“Ar ran yr awdurdod lleol, allwch chi esbonio pam na roddwyd y cyfle hwnnw? A allwch hefyd amlinellu polisi’r awdurdod lleol ar gyfer rhoi caniatâd cynllunio o dan bwerau dirprwyedig yn hytrach na dod â nhw i’r pwyllgor a fforwm cyhoeddus?”
‘Nifer sylweddol o wrthwynebiad’
“Dylech gael eich hysbysu bod y cais dan sylw wedi’i bennu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) ar 31 Gorffennaf 2023, yn unol â pholisïau cynllun lleol a chanllawiau cynllunio cenedlaethol,” meddai Phillipa Leonard, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, wrth ymateb i’r llythyr.
“Nodaf fod diddordeb y cyhoedd wedi bod yn y datblygiad hwn, a derbyniwyd nifer sylweddol o wrthwynebiadau.
“Fodd bynnag, roedd y mwyafrif helaeth o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan yr LPA yn ymwneud â lles y milgwn y ras honno a dadleuon moesol a moesegol cyffredinol y gamp.
“Er fy mod yn cydymdeimlo â’r pryderon hyn, nid oeddent yn ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth benderfynu ar y cais ac felly ni allent gael eu hystyried gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol wrth asesu rhinweddau neu fel arall y cais.”
Wrth ymateb, mae Peredur Owen Griffith yn dweud bod y Cyngor wedi osgoi ateb y cwestiwn.
“Roedd llawer o ddiddordeb cyhoeddus ynghylch y mater hwn, a dylai fod wedi cael ei drafod yn gyhoeddus, yn siambr y cyngor mewn cyfarfod o’r pwyllgor cynllunio,” meddai.