Mae Tom Lockyer wedi’i gynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru am y tro cyntaf ers iddo fe gael llawdriniaeth ar ei galon ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Cafodd ei daro’n wael wrth arwain Luton yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn Wembley.
Bydd tîm Rob Page yn wynebu De Corea mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd nos Iau nesaf (Medi 7), cyn teithio i Latfia y nos Lun ganlynol (Medi 11) ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2024.
Un arall sydd wedi’i gynnwys yw Josh Sheehan, sydd heb fod yn y garfan ers 2021.
Y tri chwaraewr yn y garfan heb gap yw Tom King, Morgan Fox a Liam Cullen.
Ond mae Dan James allan gydag anaf i’w goes.
Mae Cymru’n bedwerydd yn eu grŵp gyda hanner y gemau rhagbrofol wedi’u cwblhau.
Pan heriodd Cymru Latfia ym mis Mawrth, sicrhaodd Kieffer Moore y triphwynt i Gymru gyda’i ben.
Hon fydd gêm gyntaf erioed y tîm cenedlaethol yn erbyn De Corea, fydd yn cael eu harwain gan Son Heung-min o Spurs.
Carfan Cymru: W Hennessey, D Ward, A Davies, T King, B Davies, M Fox, J Rodon, B Cabango, C Mepham, T Lockyer, N Williams, C Roberts, W Burns, E Ampadu, J Sheehan, J James, J Morrell, H Wilson, A Ramsey, K Moore, N Broadhead, B Johnson, D Brooks, T Bradshaw, L Cullen