Mae angen academi tenis genedlaethol yng Nghymru, yn ôl gwleidyddion a rhai sydd ynghlwm wrth y gamp.

Yn ôl Chris Lewis o gorff Tennis Cymru, mae nifer o chwaraewyr yn gorfod symud o Gymru er mwyn datblygu eu gyrfaoedd.

Wrth ymateb, dywed Tom Giffard, llefarydd Chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn rhannu gweledigaeth Chris Lewis am academi genedlaethol ar gyfer Cymru, ynghyd â chynrychiolaeth fyd-eang.

“Dw i’n cael fy siomi’n aml wrth ddarllen straeon am y rhan fwyaf o dalent Cymru’n gorfod gadael Cymru er mwyn llwyddo ym myd chwaraeon,” meddai.

“Mae gan Lafur fwy o ddiddordeb mewn cynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru na chreu mwy o sêr chwaraeon yng Nghymru.

“Mae chwaraewyr yn dechrau ar lawr gwlad, felly mae clybiau lleol yn haeddu cael mwy o sylw gan y Llywodraeth Lafur.

“Dw i hefyd yn rhannu gweledigaeth Chris Lewis ar gyfer amgueddfa genedlaethol i dennis yng Nghymru, a chynrychiolaeth fyd-eang hefyd.”

Aros yng Nghymru

Wrth siarad â BBC Wales, dywedodd Chris Lewis ei bod hi’n bosib y bydd rhaid i chwaraewyr tenis ifainc fel Niall Pickerd-Barua o Gaerdydd – sy’n bencampwr tenis Prydain am yr eildro – yn gorfod symud o’r wlad i barhau â’r gêm.

Mae Mimi Xu, oedd yn bencampwr ieuenctid Wimbledon yn 15 oed, wedi symud o Bort Talbot i’r Academi Tenis Genedlaethol yn Loughborough, ac mae Chris Lewis yn rhybuddio y gall fod rhaid i Niall, sy’n 12 oed, wneud yr un fath.

“Os ydyn nhw’n gallu cyrraedd y math yna o safon erbyn oed Niall, y symud yna i academi genedlaethol, er nid yng Nghymru, dyna’r llwybr sydd gennym ni iddyn nhw ym Mhrydain Fawr,” meddai.

“Mae hi’n uchelgais caniatáu i chwaraewyr aros yng Nghymru os ydyn nhw eisiau.

“Mewn realiti, does gennym ni ddim canolfan tenis genedlaethol ar y funud.

“Fe wnaeth y peth agosaf i un oedd gennym ni gau yn 2013, felly rydyn ni wedi cael cyfnod o amser heb ganolfan genedlaethol sy’n gartref i raglen genedlaethol ar y lefel fyddai’r chwaraewyr gorau ei hangen.

“Ydy hi’n uchelgais cael academi dennis genedlaethol yng Nghymru? Ydi, yn sicr.”

‘Record falch’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol ac elît yn ymrwymiad yn eu Rhaglen Lywodraethu, yn ogystal â chefnogi athletwyr ifanc a thalentog.

“Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Chwaraeon Cymru yn datblygu fframwaith strategol a fydd yn cyfeirio buddsoddiad yn y dyfodol yn y seilwaith chwaraeon elît yng Nghymru.

“Mae Tennis Cymru wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad

“Mae gan Gymru record falch o ddatblygu sêr chwaraeon, y dylem i gyd fod yn falch ohonynt, ac fel cenedl rydym yn parhau i ragori ar lwyfan chwaraeon y byd.”

Y Seintiau Newydd yn brolio “record drawiadol o gynhyrchu talent ar gyfer y gêm Seisnig”

Daw hyn ar ôl i Adam Wilson ymuno â Bradford am ffi sy’n torri record y Seintiau Newydd
Callum Taylor

Cymro arall yn gadael Morgannwg

Daw’r cyhoeddiad am Callum Taylor yn dynn ar sodlau Andrew Salter a’r capten David Lloyd

Capten Morgannwg yn ymuno â Swydd Derby ar fenthyg

Bydd David Lloyd yn ymuno’n barhaol y tymor nesaf, ond bydd yn cynrychioli ei sir newydd yn y gystadleuaeth 50 pelawd eleni hefyd