Mae David Lloyd, capten tîm criced Morgannwg, wedi ymuno â Swydd Derby ar fenthyg ar gyfer Cwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd.

Bydd y gogleddwr yn ymuno â’r sir yn barhaol ar ddiwedd y tymor hwn, ar ôl deuddeg mlynedd yn gwisgo crys Morgannwg, wedi iddo lofnodi cytundeb tair blynedd gyda’r Saeson.

Ond bydd e’n chwarae i Forgannwg yn eu tair gêm Bencampwriaeth olaf ar ddiwedd y tymor hwn cyn ffarwelio â nhw.

Mae e wedi sgorio dros 4,000 o rediadau dosbarth cyntaf, gan gynnwys chwe chanred, ac wedi cipio bron i 100 o wicedi ers ei gêm gyntaf yn 2012.

Cafodd ei enwi’n gapten y tîm yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, gan olynu Chris Cooke.

Dywedodd Swydd Derby ei fod e’n “arweinydd”, ac y bydd e’n “rhoi dimensiwn gwahanol” i’r tîm wrth fatio ar frig y rhestr, ac yntau wedi bod yn agor y batio i Forgannwg dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae e hefyd wedi sgorio dros 2,000 o rediadau mewn gemau undydd.

Wrth egluro’i ymadawiad, dywed David Lloyd ei bod hi’n “bryd cael newid” a’i fod e “wedi cyffroi” o gael ymuno â “phrosiect sydd ar y gweill” yn Swydd Derby.

Wrth dalu teyrnged iddo fe, dywedodd Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, yn ddiweddar eu bod nhw’n “parchu” ei benderfyniad i symud i Swydd Derby “er lles ei deulu” yng ngogledd Cymru.