Bydd Morgan Ridler, bachgen bach tair oed fu farw o ganser yn ddiweddar, yn cael ei gofio ar ddiwrnod cynta’r tymor pêl-droed ar Awst 5.
Bydd Abertawe’n croesawu Birmingham i Stadiwm Swansea.com, ac fe fydd yn gyfle i’r Elyrch neilltuo’r diwrnod er cof amdano ac i godi arian at elusen Morgan’s Army.
Roedd yn fasgot ar y tîm yn eu gêm yn erbyn Caerdydd ym mis Ebrill, a dywed y clwb ei fod e a’i deulu’n “ysbrydoliaeth”.
Bydd Parc Cefnogwyr Morgan ar agor ger Eisteddle’r De, ac fe fydd y clwb yn rhoi £1 i’r elusen ar gyfer pob person fydd yn mynd trwy’r drysau.
Bydd mynediad i’r parc yn rhad ac am ddim gyda thocyn gêm neu docyn tymor, ac fe fydd ar agor am 12.30yp ar gyfer pabell plant, DJ a phaentio wynebau.
Bydd sgrin fawr a llwyfan yn y parc, gyda pherfformiadau cerddorol a sesiwn holi ac ateb gyda’r llysgennad Lee Trundle.
Bydd y parc ar agor tan 2.30yp, ac yn ailagor ar ddiwedd y gêm ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr am 5.30yp.
Bydd bwcedi codi arian yn y stadiwm, a bydd y capten Matt Grimes yn llofnodi ei grys ar gyfer y gêm i’w roi i’r elusen.