Mark Rhydderch-Roberts yw cadeirydd newydd Clwb Criced Morgannwg.
Mae’n olynu Gareth Williams, sydd wedi camu o’r neilltu ar ôl pedair blynedd, ar ôl iddo fe ddod yn Gyfarwyddwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).
Cafodd y cadeirydd newydd ei eni yng Nghrughywel, ac fe dreuliodd 28 o flynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant bancio i nifer o gwmnïau mawr gan gynnwys UBS Warbug, Schroders a Swiss Re.
Mae’n gyfarwyddwr anweithredol gyda Chanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, yn aelod o Fwrdd Asiantaeth Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol, ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol Clwb Rygbi Pontypridd.
Bu hefyd yn aelod o fwrdd ymgynghori ar sefydlu Banc Datblygu Cymru, ac yn Gyfarwyddwr Excalibur Steel wrth iddyn nhw geisio prynu Tata Steel.
Mae’n gyn-chwaraewr rygbi gyda Glyn Ebwy, Casnewydd, Pontypridd a Chaerfaddon.
Rôl gyda Morgannwg
Bu Mark Rhydderch-Roberts yn drysorydd Clwb Criced Morgannwg ers 2017.
Chwaraeodd e ran amlwg wrth i Forgannwg wynebu heriau ariannol o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Cafodd ei enw ei gyflwyno i fod yn gadeirydd gan y Pwyllgor Enwebiadau yn dilyn proses recriwtio, ac mae Bwrdd Clwb Criced Morgannwg wedi cymeradwyo’r enwebiad.
“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n gadeirydd Clwb Criced Morgannwg, a dw i’n falch o ddilyn yn ôl troed Gareth Williams,” meddai.
“Mae criced ar drothwy twf dramatig, ac mae’n gyfnod cyffrous i bawb ohonom gael bod yn rhan o hynny.
“Wrth gadw’r heriau mewn cof, dw i wedi cyffroi yn sgil y cyfleoedd sydd gan Forgannwg i ddatblygu ar y cae ac oddi arno, ynghyd â datblygiad parhaus ein stadiwm ryngwladol ryfeddol yng Ngerddi Sophia.”
Dywed Hugh Morris, Prif Weithredwr Morgannwg, fod Mark Rhydderch-Roberts wedi bod yn drysorydd “rhagorol”, gan ganmol ei waith yn ystod y pandemig.
“Mae ganddo fe angerdd am griced a chwaraeon yn ehangach yng Nghymru, ac mae ganddo fe’r profiad i adeiladu ar waith rhagorol Gareth Williams,” meddai.
Cyhoeddi’r prif hyfforddwr ar gyfer y gwpan undydd
Yn y cyfamser, mae David Harrison wedi’i benodi’n brif hyfforddwr ar gyfer cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Metro Bank.
Mae e wedi bod yn gyfrifol am y tîm yn y gystadleuaeth ers dwy flynedd o ganlyniad i gynnal y Can Pelen ar yr un pryd, gyda Matthew Maynard – a bellach Mark Alleyne – ynghlwm wrth y Tân Cymreig.