Daeth car F1 Mercedes-AMG Petronas i gymuned Gorseinon yn Abertawe heddiw (dydd Iau, Mehefin 22), wrth iddyn nhw helpu teulu bachgen bach tair oed i greu atgofion.

Mae gan Morgan Ridler fath prin o ganser, ac yntau wedi cael diagnosis yn ddwy oed yn 2021.

Mae e wedi cael sawl llawdriniaeth yn Birmingham a Llundain, ac fe gafodd e gyfres o gemotherapi rhwng diwedd 2021 a chanol 2022.

Ond gan nad yw’r driniaeth bellach yn effeithiol, mae ei deulu wedi cael cyngor gan feddygon i lenwi’r amser sydd ganddyn nhw gydag atgofion, ac maen nhw eisoes wedi codi dros £20,000 drwy dudalen codi arian.

Un bwriad oedd ganddyn nhw oedd mynd i drac rasio Silverstone ddechrau mis nesaf ar gyfer Grand Prix Prydain i ddathlu ei ben-blwydd yn bedair.

Ond gan nad yw hynny bellach yn bosib, aethon nhw ati i drefnu bod car tebyg i’r un sy’n cael ei yrru gan Lewis Hamilton a George Russell yn dod i ymweld â’u mab.

Teulu Morgan Ridler gyda’r car

Roedd aelodau o staff y tîm rasio ar Heol Frampton yng Ngorseinon, wrth i’r dorf gymryd troeon i gael tynnu eu lluniau ac i ddysgu mwy am y car, gan gynnwys y cyfle i ddal olwyn lywio’r car.

Ar ôl y digwyddiad, bydd Morgan a’i dad yn mynd ar hediad o Faes Awyr Abertawe.

Mae Morgan’s Army, y criw sydd wrthi’n codi arian i’r teulu, eisoes wedi cynnal cinio a sesiwn ymarfer gyda charfan rygbi Cymru fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn ddiweddarach eleni, a chystadleuaeth rygbi traeth yn Abertawe.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed eu teulu eu bod nhw’n disgwyl “wythnosau prysuraf eu bywydau” wrth i’r digwyddiadau amrywiol gael eu cynnal.