Michael Duff yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’n olynu Russell Martin, rheolwr newydd Southampton, ac mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd.

Mae’r Elyrch wedi cytuno ar iawndal gyda Barnsley, hen glwb Michael Duff.

Mae disgwyl i Duff gyhoeddi ei dîm hyfforddi maes o law.

Yn ôl y cadeirydd Andy Coleman, Michael Duff yw’r “union arweinydd sydd ei angen” ar y clwb.

Yn ystod ei ddyddiau’n chwarae, roedd yn amddiffynnwr gyda Carterton, Cirencester, Cheltenham a Burnley.

Fel rheolwr, mae e wedi cael cryn lwyddiant gyda nifer o glybiau, gan ennill sawl dyrchafiad.

Enillodd e 24 o gapiau dros Ogledd Iwerddon.

Adeiladu ar seiliau cadarn

Yn ôl Michael Duff, ei fwriad yw adeiladu ar y seiliau cadarn sydd wedi’u gosod eisoes.

Daw hyn wrth i’r chwaraewyr ddychwelyd i’r cae ymarfer heddiw (dydd Gwener, Mehefin 23) i baratoi ar gyfer y tymor newydd.

Byddan nhw wedyn yn teithio i La Finca yn Sbaen ar gyfer gwersyll paratoadol.

Daw Duff i Gymru ar ôl tymor llwyddiannus gyda Barnsley y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Adran Gyntaf.

Cyn hynny, enillodd e dlws yr Ail Adran gyda Cheltenham, a sicrhau eu lle uchaf erioed yn yr Adran Gyntaf wrth orffen yn bymthegfed.

Mae e wedi ennill saith dyrchafiad fel chwaraewr a rheolwr at ei gilydd, ac yntau wedi chwarae dros 600 o weithiau dros gyfnod o ugain mlynedd cyn mentro i’r byd hyfforddi.

Fe hefyd yw’r unig chwaraewr erioed i chwarae yn wyth adran ucha’r cynghreiriau yn Lloegr.

Mae’n cael ei adnabod fel hyfforddwr ymosodol sy’n gallu addasu’n gyflym ac ysgogi ei chwaraewyr, ac mae’n credu bod ymdeimlad o garfan gyfan yn hollbwysig.

“Mae angen y meddylfryd ‘un tîm’ hwnnw, sef y chwaraewyr, y cefnogwyr a’r bwrdd,” meddai.

“Mae angen i bawb dynnu i’r un cyfeiriad oherwydd dyna’r unig ffordd fyddwch chi’n sicrhau llwyddiant.

“Dw i wedi cael saith dyrchafiad yn ystod fy ngyrfa fel chwaraewr a rheolwr, felly dw i’n gwybod sut ddylai amgylchfyd edrych ac arogli.

“Dw i eisiau chwarae pêl-droed sy’n dda, a dw i’n gwybod fod disgwyliad o ran hynny yn y clwb pêl-droed hwn, ond mae’n fater o’i esblygu, ei symud a bod ar y droed flaen ychydig yn fwy a bod yn fwy rhagweithiol ar adegau.

“Mae’n fater o gael y cydbwysedd yn iawn gyda’r holl bethau hynny, oherwydd yn y pen draw mae’n fusnes [sy’n dibynnu ar] ennill.

“Rhaid i chi ennill.

“Dw i wedi dod i mewn gyda fy llygaid ar agor led y pen yn nhermau’r rheolwyr sydd wedi bod yma o’r blaen.

“Os edrychwch chi ar fy hen dimau, byddwch chi’n gweld ein bod ni’n ymosodol ac yn wynebau pobol, awn ni i wthio ond byddwn ni’n ceisio chwarae pêl-droed hefyd.

“Dw i’n gweld llawer o bêl-droedwyr da a llawer o dalent yn yr ystafell newid, felly os gallwn ni ychwanegu at hynny yna dw i’n gweld cyfle i wneud rhywbeth.

“Mae angen i bawb fod yn tynnu i’r un cyfeiriad.

“Y tîm yw popeth.”