Tîm criced Sussex yw’r ymwelwyr â Chaerdydd heno (nos Wener, Mehefin 23), wrth i Forgannwg frwydro i aros yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.
Mae ganddyn nhw dair gêm yn weddill, a’r tebygolrwydd yw fod rhaid iddyn nhw ennill pob un ohonyn nhw a dibynnu ar ganlyniadau ffafriol yn y gemau eraill yn eu grŵp er mwyn cyrraedd rownd yr wyth olaf.
Mae’r sir Gymreig yn chweched, dau bwynt y tu ôl i Hampshire yn y pedwerydd safle hollbwysig.
Ar hyn o bryd, mae gan Hampshire a Chaint gyfradd sgorio uwch na Morgannwg, a bydd y sir Gymreig yn gobeithio taro’n ôl ar ôl y golled yn erbyn Gwlad yr Haf yn eu gêm ddiwethaf.
Enillodd Sussex eu gêm ddiwethaf yn erbyn Swydd Gaerloyw neithiwr (nos Iau, Mehefin 22).
Gemau’r gorffennol
Mae Morgannwg wedi ennill pedair allan o naw gêm ugain pelawd yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd ers sefydlu’r gystadleuaeth.
Daeth un o’r rheiny y tymor diwethaf, a hynny o bedair wiced wrth i Colin Ingram daro 57, gyda Michael Neser yn cipio tair wiced am 24 hefyd.
Sussex enillodd y tair gêm flaenorol yng Nghaerdydd, gan gynnwys yn 2021 wrth i Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, a Luke Wright adeiladu partneriaeth o 144 wrth i’r Saeson ennill o 33 rhediad, gyda’r troellwr ifanc Archie Lenham hefyd yn cipio pedair wiced.
Enillodd Sussex o ddeg wiced yn 2015, o wyth wiced yn 2018, ac o saith wiced yn 2019, tra bod Morgannwg wedi ennill o 48 rhediad yn 2016, gyda David Lloyd yn taro 81 yn y gêm honno a Timm van der Gugten yn cipio pedair wiced am 17.
Cafodd Morgannwg grasfa ddwywaith yn 2015, o ddeg wiced yng Nghaerdydd ac o naw wiced yn Hove.
Ond tarodd Chris Cooke hanner canred i’r sir Gymreig yn 2014, wrth i Forgannwg ennill oddi ar y belen olaf.