Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu’r troellwr coes Mitchell Swepson o Awstralia yn lle ei gydwladwr Michael Neser, y bowliwr cyflym sydd yng ngharfan ei wlad ar gyfer Cyfres y Lludw ar hyn o bryd.

Cafodd Swepson ei ddewis gan Awstralia am y tro cyntaf yn 2017 i deithio i India, ond doedd e ddim wedi ymddangos yn y tîm am bum mlynedd arall, pan heriodd e Bacistan ar eu tomen eu hunain.

Mae’r chwaraewr 29 oed wedi chwarae dros ei wlad bedair gwaith ers hynny, gan gipio deg wiced.

Mae e wedi cipio 185 o wicedi dosbarth cyntaf mewn 62 o gemau.

Yn ei dymor cyntaf yn chwarae i Queensland yn y Sheffield Shield yn 2015-16, cipiodd e 17 o wicedi mewn chwe gêm ar gyfartaledd o 37.94 ac fe gafodd ei ddewis i dîm ‘A’ Awstralia ar gyfer tair gêm yn erbyn timau ‘A’ De Affrica ac India yn 2016, gan gipio 14 wiced ar gyfartaledd o 19.35 yr un.

Denodd e sylw Shane Warne, un o fawrion y byd criced, gyda’i berfformiadau i Brisbane Heat yn y Big Bash League, ac mae’n ymuno â Marnus Labuschagne fel un arall o’r ddinas sy’n chwarae i Forgannwg, tra bod Callum Taylor hefyd wedi’i fagu yno.

Bydd Mitchell Swepson ar gael i Forgannwg tan wythnosau ola’r tymor, pan fydd e’n dychwelyd adref ar gyfer y Sheffield Shield ym mis Medi.

Ond mae’n debygol y bydd cwestiynau ynghylch denu troellwr arall yn lle bowliwr cyflym, fel mae’r sir wedi’i wneud ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd, gyda Peter Hatzoglou yn cymryd lle Neser.

Mae rhestr anafiadau Morgannwg hefyd yn hirfaith ers tro.