Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud eu bod nhw’n “eithriadol o falch” fod gwaharddiad ar drosglwyddiadau wedi cael ei lleihau.
Daeth y gwaharddiad i rym ar ôl iddyn nhw fethu â thalu FC Nantes am y diweddar Emiliano Sala, yr Archentwr fu farw mewn gwrthdrawiad awyr cyn chwarae i’r clwb.
Yn dilyn trafodaethau rhwng y clwb a’r Gynghrair Bêl-droed, mae’r gwaharddiad am dair ffenest drosglwyddo wedi cael ei gostwng i ddwy ffenest, sy’n golygu y bydd modd iddyn nhw brynu chwaraewyr eto ym mis Ionawr.
Maen nhw eisoes wedi methu prynu chwaraewyr yn ystod un ffenest ym mis Ionawr eleni.
Dywed y clwb eu bod nhw wedi bod yn paratoi at leihau’r gwaharddiad, a bod ganddyn nhw gynllun yn ei le.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “eithriadol o falch” o gael y dyfarniad sy’n “cydnabod yr amgylchiadau eithriadol” oedd yn wynebu’r clwb.