Mae gobeithion tîm criced Morgannwg o gyrraedd rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn pylu’n gyflym, ar ôl iddyn nhw golli o 20 o rediadau yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd.

Cyn dechrau’r ornest hon, roedd ganddyn nhw dair gêm yn weddill ac roedden nhw’n wynebu’r tebygolrwydd o orfod ennill pob un ac wedyn dibynnu ar ganlyniadau timau eraill.

Cipiodd Timm van der Gugten dair wiced am ugain wrth i Sussex sgorio 182 am chwech, gan gynnwys 87 heb fod allan i Shadab Khan o Bacistan, wrth i’r sir Gymreig berfformio dipyn gwell gyda’r bêl na’r arfer eleni.

Ond collon nhw wicedi’n rhy aml gyda’r bat ar ôl i Sam Northeast osod y seiliau gyda 44 wrth agor y batio.

Yr unig berfformiwr arall gwerth ei nodi o safbwynt batwyr Morgannwg yw Cam Fletcher o Seland Newydd, oedd wedi cyfrannu 57 yn ofer.

Chwalu’r batwyr yn y cyfnod clatsio

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, roedd Sussex mewn dyfroedd dyfnion eisoes erbyn diwedd y cyfnod clo.

Cipiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten ddwy wiced yn y drydedd belawd, wrth i Harrison Ward gael ei ddal gan Will Smale ar ochr y goes, cyn i Oli Carter gael ei ddal yn safle’r goes fain gan Jamie McIlroy.

Cwympodd y drydedd wiced ar ddechrau’r bumed pelawd, wrth i Tom Clark yrru ar Ruaidhri Smith ar yr ochr agored i roi trydedd wiced i van der Gugten.

Daeth y bedwaredd wiced wrth i Ravi Bopara gael ei ddal yn gampus gan y wicedwr Chris Cooke i lawr ochr y goes oddi ar fowlio McIlroy, ac roedd yr ymwelwyr yn 46 am bedair erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Adferiad y batwyr

Gyda hynny o wicedi wedi’u colli, byddai’n dasg anodd i Michael Burgess a Shadab Khan i gynyddu’r sgôr yn sylweddol yn erbyn y troellwyr Andrew Salter a Peter Hatzoglou.

Ond y bowliwr lled-gyflym Andy Gorvin gipiodd y wiced bwysig wrth fowlio Burgess am 29 yn y bedwaredd belawd ar ddeg, ac erbyn hynny roedd yr ymwelwyr yn 102 am bump.

Gyda Shadab Khan yn ei anterth, cafodd e gwmni James Coles ac ychwanegon nhw 78 cyn i Coles gael ei fowlio gan McIlroy am 20 i adael Shadab heb fod allan ar 87, a Sussex yn 182 am chwech.

Cwrso’n ofer

Dechreuodd batiad Morgannwg yn y modd gwaethaf posib, wrth i’r capten Kiran Carlson gael ei ddal ar ymyl y cylch ar yr ochr agored wrth yrru at yr eilydd Dan Ibrahim oddi ar fowlio Brad Currie oddi ar belen gynta’r batiad.

Roedd Morgannwg wedi dechrau edrych yn gyfforddus yn y pelawdau agoriadol wedyn, gyda Sam Northeast a Will Smale yn sefydlogi’r batiad cyn i Smale gael ei fowlio gan Tymal Mills yn y bumed pelawd i adael y sir Gymreig yn 37 am ddwy.

Roedd y tîm cartref yn 50 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio, bedwar rhediad ar y blaen i’r Saeson oedd wedi colli pedair wiced erbyn hynny, ac roedden nhw’n edrych yn gwbl gyfforddus erbyn hanner ffordd, ar 83 am ddwy o gymharu â 68 am bedair eu gwrthwynebwyr ar yr un adeg.

Ond buan y collon nhw eu trydedd wiced, ar 86, wrth i Sam Northeast dynnu pelen gan Ravi Bopara at Harrison Ward ar y ffin ar ochr y goes ac roedd hi’n edrych fel pe byddai’r wiced yn drobwynt wrth i’r gyfradd sgorio ddechrau arafu gyda Cam Fletcher a Chris Cooke wrth y llain yn ddau fatiwr newydd.

Ychwanegon nhw 33 cyn i Cooke gael ei redeg allan mewn modd anffodus gan y bowliwr Shadab Khan, oedd wedi stopio’r bêl gyda’i droed cyn codi’r bêl a bwrw’r wiced, i adael Morgannwg yn 119 am bedair yn y bymthegfed pelawd.

Cafodd Timm van der Gugten ei ddal gan Ward oddi ar fowlio Shadab ganol yr unfed belawd ar bymtheg, a dilynodd Andrew Salter yn y ddeunawfed belawd wrth iddo gael ei ddal gan Coles oddi ar fowlio Mills i adael Morgannwg yn 133 am chwech.

Cwympodd y seithfed wiced yn y belawd olaf ond un, wrth i Andy Gorvin yrru at Fynn Hudson-Prentice oddi ar fowlio Currie am ddeg, a Morgannwg ar 144.

37 oedd eu hangen oddi ar belawd ola’r ornest, ond roedd gormod o waith gan y sir Gymreig i’w wneudyn y pen draw.

‘Colli cyfle’

“Dw i’n credu ein bod ni wedi colli nifer o gyfleoedd yn y maes, oedd wedi costio’n ddrud i ni, ac wedyn wnaethon ni ddiweddu’n cwrso llawer mwy nag y dylen ni fod wedi’i wneud,” meddai Sam Northeast.

“Ac wedyn, gyda’r bat, cawson ni’n hunain mewn sefyllfa dda ond wnaethon ni fethu cynnal y momentwm.

“Mae’n noson siomedig oherwydd dw i’n meddwl, mewn gwirionedd, fe wnaethon ni dipyn yn iawn ond roedd ambell gamgymeriad hanfodol.

“Mae’n gêm rydyn ni’n credu y gallen ni fod wedi’i hennill.”