Roeddwn wrthi’n rinsio’r clorin o fy ngwallt dan gawod ar ochr y pwll un bore, pan ddaeth y lifeguard heibio hefo criw o blant tua saith oed yn ei ddilyn. Roedd ynghanol esbonio rhywbeth pan dorrodd un hogan ar ei draws gan ddweud ‘Kitchen’, mewn llais uchel â golwg chwilfrydig ar ei hwyneb.

Sbïodd y lifeguard arni am eiliad. Yna, rhoddodd ei ben ar un ochr a newidiodd tôn ei lais; dywedodd yn syml: ‘Cegin, yeah’, gan godi ei lais ar ddiwedd y frawddeg, fel tasa fo’n gofyn os oedd hi’n deall rŵan. Syllodd yr hogan am eiliad gan edrych braidd yn ddryslyd, cyn dweud “O!” a nodio’i phen.

Golygfa hyfryd – plentyn oedd yn amlwg o aelwyd Gymraeg, yn ddwyieithog, ond gydag un neu ddau o fylchau yn ei geirfa. Ond doedd hyn ddim yn broblem, oherwydd roedd y lifeguard hefyd yn ddwyieithog.

Ym Mangor oedd hyn gyda llaw, tua 2017, ac er i mi ryfeddu ar y trawsieithu beunyddiol bendigedig, mi wnes i ystyried ar y pryd ei bod hi’n biti i’r hogan fach beidio cael ei gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Naratif bersonol

Roeddwn yn blentyn bach hefo iechyd bregus. Roedd gen i ‘castiau’ yn fy sgidiau i fy helpu i ddysgu sefyll a cherdded. Doeddwn i methu darllen, sgwennu, na dal pensil. Ond stori wahanol oedd hi pan oeddwn yn y dŵr!

Fy hoff beth oedd cael mynd draw i ganolfan hamdden Plas Madoc i nofio – dan y dŵr yn bennaf, gan taw dyna oedd yn dod yn naturiol i mi, er, wrth gwrs, roedd yna sleidiau hefyd, ac anifeiliaid plastig yn y dŵr, a phob math o bethau cyffrous eraill.

Ond un diwrnod, wnaeth fy rheini fynd â fi am wers nofio – i mi gael dysgu nofio ar ben y dŵr, a bod yn fwy saff yn y môr a ballu.

Roeddwn ychydig yn bryderus i ddechrau, achos roedd y plant eraill i gyd i weld yn gyfarwydd â’r geiriau estron ddefnyddiwyd gan yr athro, megis ‘breaststroke leg kick’, a ‘float’ a.y.b. Geiriau a chysyniadau anghyfarwydd i mi, mewn unrhyw iaith! Ond gwyliais y plant eraill a’u copïo nhw.

Mae be’ ddigwyddodd nesaf yn chwedl deuluol erbyn hyn: ar ddiwedd y wers, daeth Mr Rogers draw a gofyn os gallai gael gair hefo fy rhieni. Roeddent yn meddwl efallai fy mod wedi bod yn hogan ddrwg, ond dywedodd yr athro nofio taw fi oedd un o’r nofwyr mwyaf naturiol iddo ei weld yn ei yrfa ugain mlynedd.

Dychmygwch sut beth oedd hynny i ni ei glywed – finnau yn anobeithiol ym mhob maes arall, ond yn rhagori yn y pwll nofio. A dyna ni wedyn, am o leiaf ddeng mlynedd, nofio oedd fy mywyd!

Tydy hi ddim yn glir pam, ond yng Nghaer roedd y wers nofio gyntaf hon, ac yn y clwb nofio ene bu fy ngyrfa fel nofiwr brwd a llwyddiannus, yn hytrach na draw ym Mŷd Dŵr Wrecsam (felly lot o groesi’r ffin i fynychu gwersi!).

Yn hynny o beth, Saesneg oedd iaith fy ngwersi nofio, ac am ryw reswm, er fy mod yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, doedd iaith y gwersi nofio ddim i’w gweld yn bwysig i ni fel teulu bryd hynny.

Cymhwyster dysgu nofio

Yn fy arddegau, wnes i gyflawni’r cymhwyster dysgu nofio, yn bennaf oherwydd roeddwn yn gobeithio mynd draw i Camp America i addysgu nofio… yn yr haul, a chael gwneud bach o drafaelio. Eto, draw yng Nghaer y gwnes i’r cymhwyster, yn Northgate Arena.

Difyr yw synfyfyrio ar y syniad o wneud y cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ys gwn i faint o gyrsiau cyfrwng Cymraeg fuodd yna ’nôl yn y ‘90au… Ac yn wir, ys gwn i faint o gyrsiau o’r fath sydd yna nawr, o fewn cyrraedd i Wrecsam?

Yn yr erthygl ddiweddar ynglŷn a’r anawsterau wrth ffeindio athrawon nofio sy’n medru addysgu yn y Gymraeg, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones fod y cyngor wedi “gweithio’n ddiflino i recriwtio staff sy’n siaradwyr Cymraeg”, ond ei bod hi’n anodd “oherwydd lle’r ydyn ni o ran lleoliad”.

Nawr te, dydw i ddim yn wleidydd nac yn gweithio i’r Cyngor, a chredaf fod yna heriau mawr sy’n deillio o fod yn ‘Nhreffin’. Ond efallai taw nid jyst hysbysebu’r rôl yw’r ateb?

Yn ôl pob sôn, bu i Gomisiynydd y Gymraeg orchymyn yr awdurdod i “uwch-sgilio mwy o staff i ymgymryd â gwersi nofio yn y Gymraeg”. Roedd hyn ’nôl yn 2020 a dydy hyn dal heb ddigwydd.

Cyfaddawd?

Siawns fod yna dal pobol ifanc yn Wrecsam sydd mo’yn cymhwyster a gwaith, a chyfleuon i drafaelio wedi hynny?

Beth am gwrs hyfforddi am ddim, hefo ymrwymiad i addysgu nifer penodol o oriau ar ôl pasio?

Efallai fod cyfle am partneriaeth yma, rhwng yr ysgolion, a’r colegau… a’r Coleg Cymraeg Genedlaethol?

Os oes galw am y gwersi, siawns fod rhyw fath o gyfaddawd yn bosib?