Yn dilyn cyfres o gemau ugain pelawd, mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex i Gaerdydd ar gyfer gêm Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mehefin 25).

Mae’r Awstraliad Mitchell Swepson wedi’i enwi yn y garfan, ar ôl i’r troellwr lofnodi cytundeb gyda’r sir yn absenoldeb ei gydwladwr Michael Neser, sydd yng ngharfan Awstralia ar gyfer y Lludw.

Mae Tom Bevan wedi’i ddewis am y tro cyntaf yn y gêm pedwar diwrnod eleni, a hynny gan fod Colin Ingram allan ag anaf i’w goes.

Yn eu gêm Bencampwriaeth ddiwethaf, achubodd Morgannwg y gêm yn erbyn Durham, wrth i Chris Cooke daro 134 heb fod allan, gyda Timm van der Gugten yn sgorio 52 heb fod allan.

Bydd arbrawf yn y gemau yr wythnos hon, wrth i bob tîm ddefnyddio’r bêl Kookaburra yn lle’r Dukes wrth baratoi ar gyfer y Lludw, a bydd data’n cael ei gasglu ynghylch troellwyr, y bowlwyr cyflym lleiaf cyflym a’r cydbwysedd rhwng y bat a’r bêl.

Mae Morgannwg yn ddi-guro yn y Bencampwriaeth ac yn bumed yn y tabl, gydag un fuddugoliaeth a chwe gêm gyfartal, tra bod Sussex yn ail, a dim ond deg pwynt ar y blaen i’r sir Gymreig.

Y bêl Kookaburra o Awstralia

Am y tro cyntaf erioed, fe fydd y bêl Kookaburra o Awstralia yn cael ei defnyddio ar gyfer y rownd ddiweddaraf o gemau’r Bencampwriaeth.

Daw hyn yn dilyn argymhelliad gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, ar ôl i Andrew Strauss, cyn-gapten Lloegr, gynnal adolygiad o’r gêm drwyddi draw.

Mae disgwyl i’r bêl Kookaburra gael ei defnyddio eto fis nesaf, a’r gred yw ei bod hi’n symud ac yn gwyro llai na’r bêl Dukes, y bêl sydd fel arfer yn cael ei defnyddio ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu chwaraewyr o Loegr wrth iddyn nhw deithio i Awstralia y tro nesaf ar gyfer y Lludw.

Gemau’r gorffennol

Yn gynharach y tymor hwn, cafodd Morgannwg a Sussex gêm gyfartal yn Hove.

Ar ôl cael eu bowlio allan am 123 yn eu batiad cyntaf, sgoriodd Morgannwg 737 yn eu hail fatiad – sy’n record o sgôr – wrth i Marnus Labuschagne, Kiran Carlson a Michael Neser daro canred yr un.

Y tymor diwethaf yng Nghaerdydd, Morgannwg oedd yn fuddugol o bum wiced ar ôl i Eddie Byrom a Colin Ingram adeiladu partneriaeth ail wiced o 328 mewn 90 pelawd – buddugoliaeth gyntaf Morgannwg dros Sussex yng Nghaerdydd ers 1999, gyda Simon Jones a Robert Croft yn cipio pum wiced yr un, a Steve James yn sgorio 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 ac enill o chwe wiced.

Sussex oedd yn fuddugol yng ngêm agoriadol tymor 2021, wrth i’r ornest gael ei chynnal heb dorf oherwydd Covid-19.

Cipiodd Ollie Robinson 13 o wicedi, gan gynnwys naw am 78 yn yr ail fatiad sef ffigurau gorau ei yrfa a’r ffigurau gorau i Sussex yn erbyn Morgannwg, ac fe gafodd ei ddewis i chwarae dros Loegr yn sgil y perfformiad hwnnw.

Gêm agos gafwyd yn 2016, wrth i’r Saeson ennill o ddwy wiced ar ôl cwrso 223, er i Timm van der Gugten gipio tair wiced am 22 mewn saith pelawd.

Adeiladodd Ben Brown a Danny Briggs bartneriaeth o 55 mewn naw pelawd a chyrhaeddodd Sussex y nod gydag ugain pelen yn weddill o’r ornest.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, J Harris, A Gorvin, T Bevan, S Northeast, A Salter, M Swepson, Zain-ul-Hassan, P Sisodiya, J McIlroy, A Horton, C Cooke, T van der Gugten

Carfan Sussex: T Alsop (capten, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, N McAndrew, H Shipley, H Ward

Sgorfwrdd