Mae teulu merch ifanc o’r Rhondda sy’n dringo i dîm Prydain yn gobeithio codi £1,000 tuag at ei chostau cystadlu.

Yn dringo ers yn chwech oed, mae Emily Bevan ar ei hail flwyddyn gyda’r tîm, ac ar hyn o bryd yn chweched yn y Deyrnas Unedig ar gyfer ei chategori a chyntaf yng Nghymru.

Daeth y ferch unarddeg oed i’r brig yn ddiweddar mewn cystadleuaeth ddringo yng Ngemau Stryd yr Urdd.

Ond mae ei theulu yn pryderu am ba mor hir fyddan nhw’n gallu parhau i dalu’r costau sydd ynghlwm â dringo, gan nad oes cymorth ariannol pendant ar gael.

‘Elitaidd’

Eleni yn unig, mae teulu Emily Bevan wedi gwario dros £3,000 ar aelodaeth, cit, mynediad i gystadlaethau a llety, ac mae costau hyfforddi a phetrol ar ben hynny.

“Mae’r costau’n mynd yn wyllt,” meddai Helen Bevan, mam Emily, wrth golwg360.

“Oherwydd nad oes BMC (British Mountaineering Council) Cymru ar wahân, mae’n rili anodd i ni gael unrhyw fath o arian.

“Rydyn ni wedi gorfod talu tua £250 i ymuno efo’r tîm eto, wedyn roedd rhaid talu am grys-t a siwmper oedd yn rhyw £90.

“Mae gyda hi chwech ymarfer trwy’r flwyddyn hefyd ond ni lawr gyda De Orllewin Lloegr, felly ni’n gorfod teithio lawr i Exeter a Swindon chwe gwaith y flwyddyn.

“Wedyn mae yna ddeuddeg cystadleuaeth y flwyddyn.

“Mae hi’n gorfod gwneud wyth cystadleuaeth ‘home nations’ y flwyddyn – dwy yn Iwerddon, dwy yng Nghaeredin, dwy yn Lloegr ac wedyn dwy yng Nghymru gydag un ohonyn nhw yn y gogledd.

“Mae e o leiaf £40 ar gyfer pob cystadleuaeth.

“Felly mae o leiaf wyth ohonyn nhw dros nos, ac yn amlwg mae hynny oll yn adeiladu mewn costau.

“Ni wedi cyrraedd pwynt fel teulu ble ni ddim yn siŵr pa mor hir ni’n gallu gwneud hwn am.

“Mae’r ddau ohonom ni’n gweithio llawn amser.

“Fi’n athrawes ac mae’r gŵr gyda swydd dda, ond mae’n dechrau mynd yn elitaidd a dyw e ddim yn deg.”

‘Neb yn cymryd sylw’

Mae’r teulu eisoes wedi bod yn chwilio am gymorth i ariannu cystadlaethau a hyfforddiant Emily Bevan, ond heb lawer o lwc.

“Ni wedi bod yn siarad gyda phobol, ac mae Eben Muse, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd (Cymru) BMC, wedi bod yn helpu ni i gael bach o arian,” meddai.

“Ond dydy Chwaraeon Cymru heb lwyddo i roi unrhyw beth i ni achos mae hi’n unigolyn.

“Pe bai hi’n rhan o dîm, byddai hi wedi gallu cael pethau gan gwmnïau lleol ac ati, efallai.

“A gan fod o’n un o’r chwaraeon bach rhyfedd, does neb rili’n cymryd sylw.

“Mae’r llefydd dringo lleol wedi bod yn grêt am gefnogi hi, a’r ysgol hefyd.

“Ond rydan ni’n gofyn i’r un bobol trwy’r amser.

“Mae’r teulu’n helpu allan ond mae mwy o blant yn y teulu na jest hi.”

Mae Helen Bevan yn teimlo bod angen codi proffil dringo yma yng Nghymru.

“Mae llefydd dringo lleol yn gefnogol iawn ac wedi bod yn grêt ac mae Gemau Stryd yr Urdd wedi codi proffil dringo.

“Ond efallai bod angen bach mwy o arian yng Nghymru i helpu pobol i gystadlu.”

Brwydro am faner Cymru

Bu rhaid i’r teulu hefyd weithio er mwyn sicrhau bod baner Cymru ar grysau swyddogol Emily Bevan gan y BMC, gan mai baner Lloegr oedd wedi’i gosod arno.

“Maen nhw’n dod o dan ddringo Lloegr nawr, felly rydan ni wedi gorfod brwydro i gael y faner Cymru ar ei chrys hi hyd yn oed,” meddai.

“Roedd o’n dweud ‘England Climbing Squad’ arno fe hefyd a doedd hi ddim yn hapus i wisgo baner Lloegr – wnaeth hi wrthod gwisgo fe nes bod nhw’n newid y faner.

“Llynedd, roedd gyda hi’r faner GB ond mae’r ariannu wedi newid eleni ac maen nhw’n rhoi nhw o dan Sports England.

“Mae Eben [Muse] wedi bod yn trio cael tîm at ei gilydd yng Nghymru, ond dydyn nhw ddim wedi bod yn llwyddiannus.

“Gaethon ni gyfle yn lansiad y Gemau Stryd yn y Senedd – roedd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru yno, felly wnaethon ni gwestiynu pam bod rhaid cael cit gyda baner Lloegr.

“Gyda chriced maen nhw jest yn dewis logo gwahanol, nid jest baner Lloegr.”

‘Datblygu ein cefnogaeth

Dywedodd llefarydd ar ran BMC Cymru: “Mae Dringo GB wedi lansio Llwybr ar gyfer 2023 a 2024 i wella siwrnai athletwyr uchelgeisiol ar draws disgyblaethau Olympaidd yr haf; Bowldro, Arwain a Dringo Cyflym.

“Dros y chwe blynedd diwethaf mae Sgwad Datblygu Cenedlaethol Prydain wedi llwyddo i roi cyfleoedd i gannoedd o athletwyr i ddod at ei gilydd, hyfforddi, profi gosod dringfeydd o safon ryngwladol, hyfforddiant sy’n arwain y byd o ran safon, ac i rai, y cyfle i gystadlu’n rhyngwladol.

“Fel camp Olympaidd newydd, mae’r BMC a Dringo GB wedi bod yn gweithio’n agos gydag UK Sport a Sport England, ynghyd â’n bartneriaid yn Mountaineering Scotland i esblygu a gwella profiad llwybr Talent Dringo Prydain ar gyfer athletwyr dawnus.

“Mae Sgwadiau Talent Ranbarthol Lloegr hefyd yn cynnig gweithgaredd rhaglen a sgwad ar gyfer athletwyr o Gymru a Gogledd Iwerddon ac mae’r BMC yn edrych ar ein strwythur trefniadaeth a sut y gallai weithio gyda natur ddatganoledig Cymru.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid fel Mountain Training Cymru i amlinellu ein cynigion nid yn unig i gefnogi athletwyr cystadleuaeth yn well yng Nghymru, ond hefyd i ddatblygu ein cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant ac addysg sgiliau, gan ganiatáu i fwy o bobl gael mynediad i’n bryniau a’n clogwyni yn ddiogel ac yn gyfrifol.

“Mae gennym ni empathi am yr hyn y mae athletwyr a theuluoedd yn ei wneud, o lawr gwlad hyd at y lefel uchaf, wrth i ni dyfu’r gamp gyda chyllid cyfyngedig.

“Mae Emily yn aelod gwerthfawr o’n carfan ddringo ranbarthol a dymunwn y gorau iddi yn ei hymdrechion wrth godi arian a chyda ei gyrfa ddringo.”