“Does dim lle i wahaniaethu yn y byd criced yng Nghymru,” yn ôl Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg, wrth iddyn nhw ymateb i adroddiad ar hiliaeth yn y gamp.
Mae’r deunaw sir dosbarth cyntaf a’r Byrddau Criced Sirol, gan gynnwys Morgannwg, wedi derbyn copi o adroddiad comisiwn annibynnol heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 27).
Yn ôl yr adroddiad 317 tudalen, mae hiliaeth, rhywiaeth, gwahaniaethu ar sail dosbarth cymdeithasol ac agweddau elitaidd yn “rhemp” yn y byd criced yng Nghymru a Lloegr.
Yn dilyn ymchwiliad sydd wedi para dwy flynedd, mae’r comisiwn wedi gwneud 44 o argymhellion, gan gynnwys y dylai Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ymddiheuro’n ddiffuant am fethiannau.
Daeth galwad am dystiolaeth yn 2021, a daeth 4,156 o ymatebion i law ac yn dilyn galwad bellach am dystiolaeth ysgrifenedig fis Mawrth y llynedd fe ddaeth dros 150 o ymatebion.
Roedd nifer o ffigurau amlwg yn y byd criced ymhlith y rhai gyflwynodd dystiolaeth.
Casgliadau
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod:
- hiliaeth strwythurol a sefydliadol yn dal yn bodoli yn y byd criced
- menywod yn cael eu trin yn israddol ar bob lefel
- elitiaeth a gwahaniaethu ar sail dosbarth cymdeithasol yn bodoli
- criced wedi gadael pobol ddu i lawr, ac mae angen cynllun i’w adfer
- llawer o wahaniaethu heb gael ei adrodd oherwydd diffyg ymddiriedaeth yn yr awdurdodau
- dyfarnwyr yn anwybyddu sylwadau sarhaus yn aml, ar lefel broffesiynol ac ar lawr gwlad
Dywed yr adroddiad ymhellach nad yw criced yn gêm i bawb ar hyn o bryd, a bod angen arweiniad er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.
Ond mae’r adroddiad yn canmol yr awdurdodau am fod yn “ddewr” wrth fod yn destun craffu annibynnol.
Mae’r adroddiad yn argymell cyflwyno cyflogau cyfartal i ddynion a menywod, ac y dylid cyflwyno adroddiad ar gyflwr criced bob tair blynedd o hyn ymlaen.
Mae hefyd yn argymell dileu’r gemau blynyddol rhwng ysgolion bonedd Eton a Harrow, a’r gêm rhwng prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, sy’n cael ei chynnal yn Lord’s bob tymor.
Ystadegau
Daeth honiadau am hiliaeth o fewn y byd criced yn dilyn sylwadau gafodd eu gwneud gan y cyn-gricedwr Azeem Rafiq, oedd yn honni bod diwylliant o hiliaeth yng Nghlwb Criced Swydd Efrog.
Yn ôl y comisiwn, cynyddodd nifer y darnau o dystiolaeth y gwnaethon nhw eu derbyn ar ôl i Azeem Rafiq fynd gerbron pwyllgor seneddol i drafod y mater, pan gyhuddodd e’r byd criced o fod yn “sefydliadol hiliol”.
O blith y rhai wnaeth ymateb, dywedodd 50% ohonyn nhw eu bod nhw wedi profi gwahaniaethu dros y bum mlynedd ddiwethaf, ac roedd y ffigurau’n uwch eto ar gyfer pobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, yn enwedig y cymunedau Mwslimaidd, Asiaidd a Du.
Mae’r adroddiad yn cyhuddo’r ECB o fethu ag enwi hiliaeth fel pryder difrifol tan yn ddiweddar, ac maen nhw’n dweud bod hiliaeth yn parhau’n “broblem ddifrifol” ac y dylid mynd i’r afael â’r mater ar frys.
Mae’r ECB hefyd yn cyfaddef iddyn nhw gael “cenhedlaeth goll” o gricedwyr du o ganlyniad i’r sefyllfa, gyda niferoedd mawr wedi cefnu ar y gamp, ac mae’r comisiwn yn argymell cynnal “ymchwiliad manwl” dros y flwyddyn nesaf i geisio gwyrdroi’r sefyllfa.
Mae Azeem Rafiq wedi croesawu’r adroddiad, ac wedi cydnabod y gwaith sydd wedi’i wneud.
Dywed fod yr adroddiad yn “gyfle i fyfyrio” ar y cyfan ac i ganfod y ffordd ymlaen fel bod criced yn “gêm i bawb”.
Rhywiaeth a misogyny
Er bod yr adroddiad yn cydnabod “camau breision” yng ngêm y merched, mae’n tynnu sylw at ddiffyg cynrychiolaeth ar lefel gwneud penderfyniadau ac yn y cyfryngau, yn ogystal â diffyg cyfleoedd i chwarae ar gaeau mwya’r byd criced a diffyg cyfleusterau ac adnoddau.
Mae enghreifftiau hefyd o ddynion yn gwneud sylwadau amhriodol wrth fenywod ac amdanyn nhw.
Mae gêm y merched hefyd wedi’i than-gyllido, meddai’r adroddiad, ac mae cyflogau dynion yn sylweddol uwch na menywod – bron i 45% yn llai mewn rhai achosion.
Agweddau elitaidd
Mae diffyg criced mewn ysgolion gwladol yn parhau’n broblem, tra bod llwybrau wedi’u dylunio er mwyn denu cricedwyr o’r ysgolion bonedd.
Roedd tua 58% o gricedwyr Lloegr yn 2021 wedi cael addysg mewn ysgol fonedd, ac roedd 42% o’r rhai wnaeth ymateb i’r comisiwn wedi cael addysg breifat hefyd.
Nododd yr adroddiad fod y gost o chwarae criced yn cau rhai pobol allan, tra ei bod yn gamp sy’n fforddiadwy i’r rhai sy’n cael addysg breifat.
Mae’r comisiwn yn argymell na ddylai criced rhyng-sirol ddechrau cyn 14 oed, ac y dylai mynediad at lwybrau sirol fod yn rhad ac am ddim erbyn 2025.
Yn ôl elusennau gwrth-hiliaeth, mae gan griced “fynydd i’w ddringo” er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa hiliaeth.
‘Dim lle i wahaniaethu’
Yn ôl Criced Cymru a Morgannwg, sydd wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, maen nhw’n darllen yr argymhellion am y tro cyntaf heddiw ac yn dweud eu bod nhw’n blaenoriaethu ei ddarllen ac amsugno’i gasgliadau a’u deall.
Maen nhw’n dweud bod yr adroddiad yn cynnwys “pethau sylweddol i’w dysgu” er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac er mwyn “adfer neu wella ymddiriedaeth a hyder yn rhai o’r systemau, strwythurau a’r diwylliant o fewn ein camp”.
“Mae ein safbwynt ni’n glir – does DIM lle i wahaniaethu mewn criced yng Nghymru, nac yn y gymdeithas Gymreig, ac rydym yn trin pob honiad o wahaniaethu yn ei holl ffurfiau’n ddifrifol dros ben,” meddai’r datganiad.
“Rydyn ni eisiau i bobol wybod y gall unrhyw un adrodd am wahaniaethu, gan wybod y byddwn ni’n gweithredu mewn modd priodol.”
“Rydym yn darllen yr adroddiad a’i argymhellion am y tro cyntaf heddiw ac yn blaenoriaethu amgyffred ac ystyried ei gynnwys a deall argymhellion y Comisiwn yn llawn,” meddai’r datganiad.
“Mae’n amlwg eisoes bod argymhellion dysgu sylweddol yn yr adroddiad i’r byd criced roi ystyriaeth iddynt, ynghyd â chamau gweithredu fel y gallwn wella ein cynnig a’n gwasanaeth i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n draddodiadol, ac adfer neu wella ymddiriedaeth a hyder mewn rhai o’r systemau, strwythurau a diwylliant yn ein camp.
“Mae Criced Morgannwg a Chriced Cymru hefyd yn cydnabod y bydd yr adroddiad hwn yn anodd i rai o’n haelodau, cefnogwyr, cyfranogwyr, a phobol sy’n gysylltiedig â chriced ar bob lefel. Gallai fod yn brofiad darllen poenus o bosibl hefyd.
“Mae ein safbwynt yn glir – Does DIM lle i wahaniaethu mewn criced yng Nghymru, nac ychwaith mewn cymdeithas yng Nghymru, a chymerwn bob honiad o wahaniaethu o unrhyw a phob math o ddifrif.
“Rydym am i bobol wybod y gall unrhyw un adrodd am wahaniaethu, gan wybod y byddwn yn cymryd camau gweithredu priodol.
“Edrychwn ymlaen at y cyfle i ymgysylltu’n llawn â phroses ymgynghori’r ECB dros y misoedd nesaf i yrru newid cadarnhaol pellach ar draws y byd criced.”