Mae pedwar aelod o dîm hyfforddi Clwb Pêl-droed Abertawe wedi ymuno â Russell Martin yn Southampton.
Daw hyn ar ôl ymadawiad y rheolwr yn ddiweddar, ar ôl wythnosau o drafodaethau honedig ynghylch iawndal rhwng y ddau glwb.
Y pedwar sy’n gadael yw’r is-hyfforddwr Matt Gill, hyfforddwr y gol-geidwaid Dean Thornton, y dadansoddwr perfformiad Ben Parker a’r pennaeth adferiad Rhys Owen.
Ymunodd Gill, Thornton a Parker â’r clwb pan gafodd Russell Martin ei benodi yn 2021, a dilynodd Owen flwyddyn yn ddiweddarach yn ystod haf 2022.
Mae’r clwb wedi diolch iddyn nhw am eu “gwaith caled”, gan ddymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.
Newidiadau sylweddol
Daw’r ymadawiadau drannoeth y cyhoeddiad fod Paul Watson wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Chwaraeon Abertawe.
Mae’n dilyn ymadawiad Julian Winter, y Prif Weithredwr, a phenodiad Andy Coleman, y cadeirydd newydd.
Daw Paul Watson i Abertawe o Luton, lle bu’n allweddol wrth iddyn nhw godi i Uwch Gynghrair Lloegr, ac fe fydd yn gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â phêl-droed ar lefel y Bwrdd.
Bydd yn cydweithio â’r rheolwr newydd Michael Duff a’r Pennaeth Gweithrediadau Pêl-droed Josh Marsh, gan ganolbwyntio ar recriwtio chwaraewyr.