Mae Clwb Pêl-droed Southampton yn llygadu Joel Piroe, ymosodwr Abertawe, yn ôl adroddiadau.
Symudodd yr Iseldirwr i Stadiwm Swansea.com o PSV yn ei famwlad ddwy flynedd yn ôl, ac fe gafodd e dymor llwyddiannus y tymor diwethaf, wrth iddo fe sgorio ugain gôl a chreu dwy arall mewn 45 o gemau ar draws yr holl gystadlaethau.
Yn ogystal â Southampton, sydd newydd benodi’r cyn-reolwr Russell Martin, mae Salernitana yn yr Eidal hefyd yn awyddus i ddenu Piroe, yn ogystal â dau glwb arall yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae lle i gredu y gallai gostio rhwng £10m a £12m i’w ddenu i ffwrdd o dde Cymru, ac yntau ym mlwyddyn olaf ei gytundeb gyda’r Elyrch.
Mae’r clwb wedi cynnig cytundeb newydd iddo fe, ond dydy e ddim wedi ei lofnodi hyd yn hyn, ac mae pryderon bellach y gallai fod ymhlith y chwaraewyr nesaf i gael eu gwerthu wrth i’r Elyrch barhau i wynebu problemau ariannol hirdymor.
Fe wnaeth Russell Martin fynegi rhwystredigaeth ynghylch y sefyllfa cyn cael ei benodi gan Southampton.