Llwyddodd batwyr olaf tîm criced Sussex i oroesi 21.2 o belawdau i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Morgannwg yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Dim ond un wiced oedd ei hangen ar y sir Gymreig i ennill – a chodi i’r ail safle yn yr ail adran – pan ddaeth yr ornest i ben ar ddiwedd y pedwerydd diwrnod.

Roedd y Saeson yn 273 am naw, 85 rhediad y tu ôl i’r nod, gydag Oli Carter heb fod allan ar 55 ar ôl cael ei ollwng yn y maes ddwywaith.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Sussex yn aros yn yr ail safle ar ddiwrnod gafodd ei gwtogi gan y glaw.

Cipiodd y troellwr coes Mitchell Swepson bedair wiced yn yr ail fatiad yn ei gêm gyntaf i Forgannwg, tra bod Jamie McIlroy a James Harris wedi cipio dwy yr un.

Goroesodd Oli Carter 149 o belenni a Henry Shipley 56 pelen, ar ôl i Nathan McAndrew daro 42 chwim pan oedd gan yr ymwelwyr obaith o gwrso’r nod ar y prynhawn olaf.

Manylion

Dim ond dwy wiced roedd Sussex wedi’u colli erbyn amser cinio, ond llwyddodd Morgannwg i atal y llif rhediadau cyn i Tom Alsop golli ei wiced ar ôl yr egwyl wrth i James Harris daro’i goes o flaen y wiced.

Tarodd Swepson goes Tom Clark o flaen y wiced belen ar ôl i’r batiwr oroesi pelen debyg, ond parhau i ymosod wnaeth McAndrew cyn cam-ergydio a chanfod dwylo’r capten Kiran Carlson oddi ar fowlio McIlroy.

Cafodd James Coles ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio McIlroy am 35, cyn i Danial Ibrahim ddilyn wrth sgubo at Zain-ul-Hassan oddi ar fowlio Swepson.

Erbyn amser te, roedd angen 154 o rediadau ar Sussex, ond dim ond tair wiced oedd ganddyn nhw’n weddill.

Dim ond dwy oedd ganddyn nhw yn fuan ar ôl yr egwyl, wrth i Harris fowlio Fynn Hudson-Prentice gyda iorcer.

Cafodd Carter ei ollwng gan Billy Root ar 37 yn sgwâr ar ochr y goes, ond fe gipiodd e ddaliad i waredu Jack Carson oddi ar fowlio Timm van der Gugten fel mai dim ond un wiced oedd ei hangen am y fuddugoliaeth gyda thros ugain pelawd yn weddill.

Gallai’r ornest fod wedi dod i ben gyda buddugoliaeth i Forgannwg pe bai Zain-ul-Hassan wedi dal ei afael ar y bêl yn y slip i waredu Carter, ond roedd yn gyfle digon anodd yn y pen draw.

Canmol y capten ond beirniadu’r bêl

Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg yn y Bencampwriaeth, wedi canmol capteniaeth Kiran Carlson a pherfformiad Mitchell Swepson, ond wedi beirniadu’r bêl Kookaburra yn dilyn arbrawf ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

“Dw i’n teimlo balchder eu bod nhw wedi cipio naw wiced, â bod yn onest, oherwydd roedd y llain yn eithaf fflat a ddaru’r amodau heddiw, efo’r glaw mân y bore ’ma, wedi gorchuddio top y llain fel nad oedden ni wedi’i gweld hi’n troelli ryw lawer heddiw,” meddai.

“Ddaru hynny achosi gwaith caled i ni, ond dalion ni ati a dyfalbarhau yr holl ffordd drwodd, ac roedd capteniaeth Kiran Carlson yn wych, maes llawn dychymyg, ceisio creu cyfleoedd ar gyfer wicedi, ddaru’r hogiau adael popeth allan yno.

“Oherwydd yr amodau bore heddiw, ddaru’r bêl fynd a doedd hi ddim yn wych, os ydw i’n onest, oherwydd y glaw ac wedyn ei glirio fo dros nos, felly cafodd hi ei gwlychu a doedd hi ddim yn adlewyrchiad teg o’r bêl oedd yn gwyro am yn ôl ar ôl 30 pelawd yn y batiad cyntaf.

“Roedd hi’n ymdrech lew gan Mitch, ddaru o greu argraff a bowlio â chryn reolaeth ac mae o’n ei throi hi, felly ro’n i’n bles iawn efo’i berfformiad.

“Os cawn ni bedwar diwrnod sych y tro nesaf, yna gobeithio y bydd hi’n troi ar y diwrnod olaf.

“Dydy’r fuddugoliaeth nesaf ddim yn bell i ffwrdd, oherwydd mae’r hyn rydan ni’n ei wneud o ran prosesau’n creu argraff eleni.”