Mae disgwyl i Martyn Margetson ailymuno â thîm hyfforddi Clwb Pêl-droed Abertawe.
Treuliodd e gyfnod yn hyfforddi’r gôl-geidwaid yn ystod cyfnod Steve Cooper wrth y llyw, ac roedd e’n hyfforddi gôl-geidwaid Cymru tan 2016 pan ymunodd e â Lloegr.
Bellach, mae disgwyl iddo fe gael ei benodi’n aelod o dîm hyfforddi Michael Duff, rheolwr newydd Abertawe gafodd ei benodi’n ddiweddar i olynu Russell Martin, sydd wedi’i benodi’n rheolwr Southampton.
Y gred yw y bydd e’n parhau i weithio gyda Lloegr hefyd.
Mae Alan Sheehan a Martin Paterson eisoes wedi’u penodi’n is-hyfforddwyr gan yr Elyrch.
Mae gan Sheehan brofiad gyda Luton a Southampton, a chyn hynny fel chwaraewr-hyfforddwr gydag Oldham.
Roedd Duff a Paterson yn gyd-chwaraewyr yn Burnley a Gogledd Iwerddon, ac yn cydweithio yn Barnsley, ac mae ganddo fe brofiad hefyd o weithio gyda Tampa Bay Rowdies, Fort Lauderdale ac Inter Miami.
Bydd Kris O’Leary, cyn-chwaraewr Abertawe, hefyd yn parhau yn ei rôl fel hyfforddwr y tîm cyntaf.
Pan gafodd Russell Martin ei benodi gan Southampton, cyhoeddodd y clwb ymadawiadau ei ddirprwy Matt Gill, hyfforddwr y gôl-geidwaid Dean Thornton, y gwyddonydd chwaraeon Rhys Owen a’r dadansoddwr Ben Parker.