Mae tîm criced Morgannwg yn wynebu gêm ugain pelawd dyngedfennol oddi cartref yn Hampshire heno (nos Wener, Mehefin 30), wrth iddyn nhw frwydro i aros yn y Vitality Blast.

Hon yw eu gêm olaf ond un, ond mae’n rhaid iddyn nhw ennill a gobeithio am y gorau o ran y gemau eraill yn eu grŵp.

Mae Morgannwg wedi ennill tair gêm a cholli chwech oddi cartref yn Southampton dros y blynyddoedd, a dydyn nhw ddim wedi ennill yno ers 2018, pan sgoriodd David Lloyd 38 a chipiodd y troellwr Andrew Salter dair wiced.

Roedd Morgannwg yn fuddugol o 23 rhediad yn 2015, ac o 63 rhediad yn 2018, ond Hampshire oedd yn fuddugol yn 2016 (o 25 rhediad), yn 2017 (o wyth wiced), yn 2019 (o 41 rhediad) ac yn 2021 (o chwe wiced).

Carreg filltir bersonol

Gyda gobeithion Morgannwg yn y fantol, mae’r bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy yn closio at sawl record bersonol.

Mae e wedi cipio deunaw wiced y tymor hwn – ac un wiced bob pymtheg pelen ar gyfartaledd – gan gynnwys pedair am 36 yn erbyn Essex yn Chelmsford.

Dim ond tri bowliwr arall sydd wedi cipio mwy o wicedi mewn un tymor i Forgannwg.

Robert Croft oedd wedi gosod y record (22) yn 2010, a Michael Hogan (21) sydd â’r record ar gyfer bowliwr cyflym, a hwnnw hefyd wedi cipio ugain wiced yn 2017 a 2019.

Carfan Hampshire: J Vince (capten), T Albert, M Crane, S Currie, L Dawson, A Donald, N Ellis, J Fuller, B Howell, B McDermott, T Prest, J Turner, J Weatherley, R Whiteley, C Wood

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, A Gorvin, T Bevan, S Northeast, R Smith, A Salter, W Smale, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten