Mae tîm criced Morgannwg allan o gystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast ar ôl colli o 21 rhediad yn erbyn Hampshire yn Southampton.
Cafodd yr ornest ei chwtogi’n sylweddol oherwydd y tywydd ar noson dyngedfennol i’r sir Gymreig, wrth iddyn nhw orfod ennill er mwyn aros yn y gystadleuaeth.
Ond roedd y nod o 83 mewn chwe phelawd yn ormod, wrth iddyn nhw lwyddo i gyrraedd dim ond 54 am un mewn 5.3 pelawd cyn y glaw.
Sgoriodd y Saeson 97 am ddwy mewn 9.2 pelawd, gyda Ben McDermott yn taro 54 heb fod allan.