Bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon yn dychwelyd i Fae Abertawe am wythnos hon (Gorffennaf 10 i 17).
Yn ôl y trefnwyr, bydd mwy o chwaraeon nag erioed yn ystod yr wythnos ac mae modd gwylio’r mwyafrif ohonyn nhw’n rhad ac am ddim.
Bydd yr wythnos yn dechrau gyda Phara Golff Agored Cymru yng Nghlwb Golff Bae Langland ddydd Llun (Gorffennaf 10) ble bydd 36 o bara-golffwyr y wlad yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Yna, ddydd Mawrth (Gorffennaf 11) bydd digwyddiad er mwyn cyflwyno chwaraeon megis athletau, criced, karate, rhwyfo, tennis, a rygbi cadair olwyn i bobol.
Bydd hyfforddwyr a para-athletwyr o ledled Cymru yno er mwyn darparu hyfforddiant arbenigol am ddim i fynychwyr sydd wedi cofrestru.
‘Eisiau i bobl ifanc gredu bod ganddyn nhw’r gallu’
Mae Beth Munro yn un a fynychodd ddigwyddiad taekwondo tebyg yn y gogledd, ac aeth yn ei blaen i ennill medal arian yng Ngemau Paralympaidd Tokyo ddeunaw mis yn ddiweddarach.
“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r Ŵyl Para Chwaraeon fel model rôl,” meddai Beth Munro.
“Rydw i eisiau i bobl ifanc gredu bod ganddyn nhw’r gallu, nid yr anabledd, i wneud yn dda mewn chwaraeon.
“Mae angen i unigolion anabl achub ar y cyfle a meddwl bod breuddwydion yn bosibl, oherwydd rydw i’n brawf byw eu bod nhw.”
Ddydd Mercher (Gorffennaf 12) bydd Pencampwriaethau Tîm Boccia y Deyrnas Unedig yn cychwyn yn yr LC yn Abertawe am ddeuddydd.
Ymysg y cystadleuwyr bydd David Smith sydd wedi ennill tair Medal Aur Baralympaidd, ac yn sylfaenydd Clwb Boccia Abertawe.
Fel un o’r ychwanegiadau newydd i’r ŵyl eleni, bydd gêm Bêl-droed Byddar rhwng Cymru a’r Alban yn cael ei chynnal ar y dydd Gwener (Gorffennaf 14).
Penwythnos prysur
Bydd chwaraeon hefyd yn cael eu cynnal dros y penwythnos nesaf, gan gynnwys Cystadleuaeth Agored Rygbi Cadair Olwyn Cymru ddydd Sadwrn.
Y Gweilch, Dreigiau Casnewydd, y Taunton Gladiators a’r Tiger Seals yw’r timau fydd yn cystadlu am y fuddugoliaeth.
“Rygbi Cadair Olwyn yw fy angerdd,” meddai un o chwaraewr y Gweilch, Arran Flay.
“Mae’n gamp gorfforol iawn ac mae’n rhaid i chi fod yn gryf oherwydd mae gennych chi bwysau’r gadair i’w gwthio o gwmpas, ac mae’n rhaid i chi daro pobl gyda llawer o ddwysedd.
“Mae’n rhaid i chi fod yn ffit iawn yn gorfforol a hyfforddi’n galed i chwarae rygbi cadair olwyn.
“Mae gan y Gweilch siawns dda o ennill Pencampwriaeth Agored Rygbi Cadair Olwyn Cymru, ond mae pob un o’r pedwar tîm sy’n cystadlu yn gryf iawn.”
Caiff Pencampwriaethau Para Ffensio Prydain a Saethu Targedau Para Cymru hefyd eu cynnal trwy gydol y penwythnos.
Bydd Gŵyl Para Chwaraeon 2023 yn dod i ben gyda’r IRONMAN 70.3 Abertawe ddydd Sul (16 Gorffennaf).
‘Cyfle gwych i ysbrydoli’
“Ni allwch ddiystyru sut y gall chwaraeon newid bywydau, felly hoffwn wahodd pawb i ddod i lawr i’r Ŵyl Para Chwaraeon a rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon,” meddai Ben Pritchard o’r Mwmbwls a fydd yn cystadlu yn Gemau Olympaidd Paris yn 2024.
Dywedodd Uwch Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru, Robyn Wilkins, eu bod yn “falch iawn” o gydlynu’r digwyddiad am yr ail flwyddyn.
“Mae’n gyfle gwych i gael eich ysbrydoli, gweld chwaraeon byw gwych, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd eich hun,” meddai.
“Mae hon yn wythnos unigryw o chwaraeon para lle gallech chi gefnogi, cymryd rhan neu wirfoddoli mewn amrywiaeth o chwaraeon, sydd i gyd ar gael yn y rhanbarth, a ledled Cymru.”