Wrth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed yr wythnos hon, mae perygl i deyrngarwch dall tuag ato fel sefydliad lesteirio’r gwaith o geisio’r math o syniadau arloesol a dyfeisgar sydd eu hangen arnom ni heddiw

Ni all neb wadu bod sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 75 mlynedd yn ôl yn un o’r camau pwysicaf ymlaen mewn gofal iechyd a chyfiawnder cymdeithasol yn hanes y wladwriaeth Brydeinig.

Ar hyd y blynyddoedd, bu cenedlaethau a brofodd y sefyllfa fel yr oedd gynt yn fythol ddiolchgar am y triniaethau a gofal a gawson nhw ers sefydlu’r Gwasanaeth. Yn yr un modd, mae ein dyled yn aruthrol i waith diflino staff y Gwasanaeth Iechyd heddiw, ac mae eu hymgyrchoedd am well amodau tâl a gwaith yn haeddu pob cefnogaeth.

Y perygl ydi pan fo edmygedd o’r hyn sy’n cael ei gyflawni gan staff y Gwasanaeth Iechyd yn troi yn rhyw fath o eilun addoliaeth o’r sefydliad ei hun.

Mae bron fel pe bai’r gyfundrefn ei hun yn cael mwy o glod na’r meddygon a nyrsys sy’n gweithio o’i mewn. A bod rhai o’r datblygiadau meddygol anferthol sydd wedi digwydd dros y 75 mlynedd ddiwethaf fel pe baen nhw i’w priodoli i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn hytrach nag i ddyfeisgarwch gwyddonwyr ledled y byd.

Canlyniad y teyrngarwch sefydliadol yma ydi’r duedd amlwg i ddadleuon gwleidyddol fod yn troi’n ormodol o gwmpas sut i ddiogelu’r ‘NHS’ yn lle ar sut i ddarparu’r gwasanaethau gorau i gleifion. Mewn geiriau eraill, yn canolbwyntio ar les y sefydliad yn lle ar y rheini mae’r sefydliad hwnnw i fod i’w gwasanaethu.

Cymhellion gwleidyddol

Mae’n amlwg hefyd fod o leiaf rywfaint o’r teyrngarwch at y Gwasanaeth Iechyd fel sefydliad yn mynd y tu hwnt i ystyriaethau o beth sydd orau i gleifion.

I lawer ar y chwith wleidyddol, sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd oedd llwyddiant mwyaf mudiad llafur y ganrif ddiwethaf. Iddyn nhw, mae amddiffyn yr ideoleg sosialaidd a roes fod iddo’n dod o flaen unrhyw dystiolaeth – waeth pa mor amlwg – nad ydi’r drefn bresennol yn gweithio’n dda iawn.

Mae eraill yn seinio clodydd y Gwasanaeth er mwyn osgoi cael eu cyhuddo o ddiffyg ymrwymiad i ofal iechyd rhad ac am ddim i bawb.

Pe bai rhywun am fod yn sinicaidd, mae’n anodd peidio â sylwi hefyd ar ryw elfen o falchder Prydeinig yn yr eilun addoliaeth yma o’r ‘NHS’.

Mae fel pe fai rhyw fath o gred dorfol – gwbl ddi-sail – wedi datblygu dros y blynyddoedd mai’r Prydain ydi’r unig wladwriaeth yn y byd sy’n cynnig gofal iechyd am ddim. Ac mai’r unig ddewis heblaw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ydi system America lle mae tlodion yn dioddef yn enbyd.

Does neb yn cael gwneud cymariaethau efo’r systemau iechyd sydd ar waith yng ngwledydd eraill Ewrop, lle mae’r gwasanaeth yn aml yn fwy effeithlon, a thlodion â’r un faint o hawliau i driniaeth am ddim.

Gwell gan fwyafrif ein gwleidyddion ddal i ddadlau mai’r Gwasanaeth Iechyd Prydeinig ydi’r ddarpariaeth gofal iechyd orau yn y byd, waeth beth fo’r dystiolaeth i’r gwrthwyneb.

Mae’n sicr ei fod yn ddatblygiad hynod o flaengar yn ei ddydd, ond mae’r un mor arwyddocaol nad oes yr un wlad arall wedi mabwysiadu’r union dull yma o ddarparu gofal iechyd.

Canoli grym

Creadigaeth mudiad llafur yr 20fed ganrif ym Mhrydain ydi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gwerthoedd y mudiad a’r cyfnod hwnnw sy’n ei gynnal heddiw i raddau helaeth. Er mor anrhydeddus ydi’r gwerthoedd hynny ar lawer ystyr, mae cwestiynau i’w gofyn am y graddau mae’r Gwasanaeth wedi gallu addasu i anghenion oes wahanol iawn bellach.

Diddorol ydi nodi hefyd cymaint mae hanes ei ddatblygiad wedi bod yn ddrych o’r traddodiad o unoliaeth Prydeinig yng ngwleidyddiaeth y chwith.

Er bod ymrwymiad i sefydlu gwasanaeth iechyd rhad ac am ddim gan lywodraeth Lafur 1945, roedd cryn frwydr yng nghabinet y llywodraeth honno rhwng Aneurin Bevan a’r Dirprwy Brif Weinidog, Herbert Morrison. Roedd Herbert Morrison, a fu’n gyn-arweinydd Cyngor Llundain, yn gyndyn o weld Whitehall yn cael gormod o rym ac yn ffafrio i’r Gwasanaeth Iechyd gael ei reoli gan y cynghorau sir. Roedd Aneurin Bevan, fodd bynnag, yn benderfynol bod yn rhaid i’r gwasanaeth fod yn ‘genedlaethol’ ac felly’n cael ei reoli o’r canol, a fo a gariodd y dydd. I fod yn deg ag Aneurin Bevan, mae’n ddigon tebyg mai ei brif gymhellion oedd sicrhau bod cymoedd difreintiedig Gwent yn cael yr un gwasanaethau â siroedd cyfoethog de-ddwyrain Lloegr. Yn hyn o beth, roedd ei agwedd yn adlewyrchu amcanion craidd y chwith Brydeinig o ganoli grym yn Llundain fel modd o geisio sicrhau dosbarthiad tecach o gyfoeth y wladwriaeth.

Eto i gyd, does dim amheuaeth fod gwasanaeth iechyd gwladol a oedd yn cael ei reoli o’r canol wedi cyfrannu’n sylweddol at undod Prydeinig dros yr hanner can mlynedd cyn datganoli. Gallwn hefyd fod yn sicr y byddai Prydain wedi dod yn wladwriaeth llawer mwy datganoledig, a hynny’n llawer cynt, pe bai syniadau Herbert Morrison yn hytrach nag Aneurin Bevan wedi ennill y dydd.

Gwasanaeth i Gymru

Daeth tro ar fyd yn 1999, wrth i reoli’r Gwasanaeth Iechyd ddod ymhlith prif gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Daeth arwyddocâd gwleidyddol hyn yn fwyaf amlwg yn ystod y pandemig, wrth gwrs, wrth i lawer o’r penderfyniadau allweddol gael eu gwneud yng Nghymru.

Dangosodd hyn yn glir fod gan Wasanaeth Iechyd Cymru lawer iawn o rym bellach i ddatblygu gwasanaeth cwbl wahanol a fydd yn torri ei gwys ei hun.

Mae’n golygu bod gan ein gwleidyddion gyfle i fod yn arloesol a dyfeisgar wrth fanteisio ar eu potensial i ddatblygu gwasanaeth iechyd unigryw ar gyfer anghenion Cymru heddiw.

Fydd hyn yn ddim digwydd os bydd y Gwasanaeth Iechyd yn dal i gael ei ddefnyddio fel rhyw fath o bêl-droed gwleidyddol ymysg y pleidiau, yn lle ceisio atebion trawsbleidiol. Os mai gofal i gleifion ddylai gael blaenoriaeth, mae’n golygu bod cyfrifoldeb gan y llywodraeth i estyn allan at bleidiau eraill. Yn yr un modd, mae’n ddyletswydd hefyd ar y gwrthbleidiau hefyd i gynnig syniadau a beirniadaeth adeiladol.

Yn lle hynny, yr hyn a gawn yn rhy aml ydi gemau gwleidyddol gwirion, lle mae ystadegau am amserau aros a methu targedau yn cael eu trin fel bwledi i’w tanio ar y llywodraeth.

Dydi galwadau bob yn ail wythnos am ymddiswyddiad Eluned Morgan fel Gweinidog Iechyd, ar sail methiannau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaldr, yn cyfrannu dim oll at y fath o drafodaeth sydd ei hangen. Does dim tystiolaeth o gwbl y gallai neb arall wneud yn well na hi, gan fod datrys anawsterau’r gwasanaeth iechyd y tu hwnt i allu unrhyw un unigolyn.

Adnoddau a chapasiti

Mae’n amlwg mai pennaf angen y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ydi llawer iawn mwy o adnoddau. Does dim gobaith gwella’r gwasanaethau heb arian i gynyddu capasiti trwy gyflogi a hyfforddi llawer iawn mwy o staff clinigol o bob math. Ond o le mae’r arian hwnnw am ddod?

Yr ateb a fyddai’n dod gyntaf i’r meddwl – a’r dewis gorau ar lawer ystyr – fydd mwy o arian yn uniongyrchol o bwrs y Llywodraeth.

Ar y llaw arall, mae pen draw i faint mwy o arian y gall Llywodraeth Cymru ei godi ei hun, gan mai cyfyng ydi ei phwerau i godi trethi. I gael mwy o arian o’r Trysorlys yn Llundain, byddai angen codi trethi’n sylweddol ledled Prydain. Yn anffodus, mae pleidiau sy’n ymrwymo i godi trethi’n sylweddol yn tueddu i fethu â chael eu hethol. Hyd yn oed pe bai Cymru’n annibynnol ni allwn fod yn sicr y byddai cefnogaeth i godi’r lefel o drethi y byddai ei angen.

Yn realistig felly, mae cynyddu capasiti’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am olygu codi arian o ffynonellau eraill. Un dewis amlwg fyddai rhoi cymhellion i bobl fwy ariannog wario mwy ar ofal iechyd. Gallai hyn fod trwy hyrwyddo sector annibynnol i ategu’r Gwasanaeth Gwladol neu trwy alluogi’r Gwasanaeth Gwladol i godi arian ar y rheini a all fforddio â gwneud hynny. Gallai fod lle hefyd i gyflwyno rhyw fath o drefn yswiriant ychwanegol – yn gyfnewid am fanteision fel amserau aros byrrach ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.

Mae’n wir y gallai syniadau o’r fath fod yn groes i’r graen i lawer ohonom, a gellid dadlau’n ddigon teg eu bod yn gwbl groes i ethos y meddylfryd y tu ôl i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd 75 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, os ydan ni o ddifrif am fynd i’r afael â’r argyfwng presennol, ni allwn fforddio â diystyru unrhyw syniadau. Mae’n rhaid i’r angen am gynyddu capasiti gael blaenoriaeth ar unrhyw ystyriaethau eraill, gan fod hynny er budd pawb yn y pen draw – nid zero sum game ydi gofal iechyd. Dydi diwylliant gwleidyddol lle bo unrhyw ddadleuon neu syniadau gwreiddiol ac arloesol yn cael eu mygu efo cyhuddiadau fel ‘preifateiddio’r NHS’ ddim yn fynd â ni i unlle. A chleifion, yn enwedig rhai tlotach, fydd y rhai a fyddai’n talu’r pris.Pe bai Cymru heddiw’n wlad annibynnol yn cychwyn gwasanaeth iechyd o’r newydd, gallwn fod yn sicr na fyddai’n dewis yr un model ag a luniwyd ar gyfer Prydain yr 1940au.