Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol, sy’n nodi’r cynnydd tuag at gyflawni deg amcan llesiant y llywodraeth.

Dyma’r ail adroddiad yn nhymor presennol y Senedd, ac mae’n tynnu sylw at lwyddiannau’r flwyddyn ddiwethaf mewn “cyfnod eithriadol o anodd”.

Mae’r rhain yn cynnwys darparu gofal iechyd cynaliadwy o safon uchel, economi gryfach a gwyrddach, diwygio addysg, cefnogi’r bobol fwyaf agored i niwed, dathlu amrywiaeth, parhau â’r nod o gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur.

Daw’r amcanion hyn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae rhai o’r ymrwymiadau wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Bydd ail adroddiad blynyddol y Cytundeb Cydweithio’n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu eu hamcanion llesiant a bennwyd yn 2021 ac wedi casglu eu bod yn parhau i gynrychioli’r meysydd lle gallan nhw wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant.

‘Cenedl Noddfa go iawn’

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Rydym yn llwyddo i gyflawni o hyd, a hynny yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.

“Cawsom flwyddyn heriol arall y llynedd, gydag argyfwng yn sgil costau byw a chostau ynni cynyddol, y rhyfel creulon yn Wcráin a mwy o dystiolaeth o’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn adfer o effaith y pandemig bellach a ninnau, diolch i’r drefn, wedi symud y tu hwnt i’r ymateb brys.

“Rydym wedi cyflawni llawer dros y flwyddyn ddiwethaf, ochr yn ochr â darparu cymorth wedi’i dargedu i helpu pobol gyda’r argyfwng costau byw a chynllun uwch-noddwr sy’n cynnig cymorth cofleidiol i bobol sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

“Rwyf hefyd am dalu teyrnged i bawb yng Nghymru sydd wedi agor ei gartref i bobol o Wcráin, gan roi lloches ddiogel iddynt.

“Mae hyn yn dangos yn glir ein bod yn Genedl Noddfa go iawn.

“Hyd yn oed pan oedd angen inni wneud penderfyniadau anodd oherwydd y pwysau mawr iawn arnom yn ariannol, mae ein cyllidebau wedi canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, rhoi cymorth i bobol yn ystod yr argyfwng costau byw a chyflawni ein blaenoriaethau.”