Mae cyn-gynghorydd o Bowys wedi cael ei geryddu am fethu â chadw at God Ymddygiad yr awdurdod tân ar ôl iddo ofyn i aelod o’r cyhoedd gael gwared ar giât.
Ym mis Mai, fe wnaeth Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyfarfod i ystyried cwyn gafodd ei gwneud gan yr aelod o’r cyhoedd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Roedd yr aelod yn honni bod cyn-Gynghorydd Sir Powys, Timothy Van-Rees, wrth weithredu yn ei rôl fel aelod o Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi mynd yn groes i God Ymddygiad yr aelodau drwy ddweud y dylid cael gwared ar y giât gan ei bod hi’n achosi risg o dân.
Am nifer o flynyddoedd, bu Mr Van-Rees, fu’n swyddog yn y fyddin, yn cynrychioli tref Llanwrtyd ar Gyngor Sir Powys, gan roi’r gorau iddi yn etholiadau lleol mis Mai 2022.
Ar ôl clywed gan gynrychiolydd Mr Van-Rees a chynrychiolydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad ei fod wedi methu cadw at baragraffau 4(a), 4(b), 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod Ymddygiad gan ei fod heb drin yr aelod o’r cyhoedd gyda thegwch na pharch.
Dywedodd y pwyllgor hefyd bod Mr Van-Rees wedi ymddwyn mewn ffordd oedd yn debyg o effeithio ar enw da’r awdurdod neu’r aelod, a’i fod wedi ceisio defnyddio ei safle’n anghywir er ei fudd ei hun neu er mwyn creu anfantais iddo’i hun ac/neu eraill.
Meddai’r adroddiad: “Er gwaethaf record hir ac amlwg y Cynghorydd Van-Rees o wasanaeth cyhoeddus, o ystyried difrifoldeb yr ymddygiad dan sylw, dylid ceryddu’r cyn-gynghorydd Van-Rees am ei weithredoedd wrth fethu cadw ar God Ymddygiad aelodau, yn enwedig gan ei fod dal yn aelod gweithredol o Gyngor Tref Llanwrtyd ar y pryd.”
Cyfathrebiaeth ‘anaddas’
Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd wedi cyfeirio’r cwyn ymlaen at Bwyllgor Safonau’r Awdurdod Tân.
Yn ystod yr ymchwiliad, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod Mr Van-Rees wedi dibynnu ar ei safle fel aelod o’r awdurdod ac wedi sgrifennu at yr achwynwr yn dweud wrtho gael gwared ar y giât gan ei bod yn achosi risg tân.
Roedd y dystiolaeth yn awgrymu nad oedd gan yr aelod unrhyw awdurdod i benderfynu a oedd y giât yn achosi risg tân, ac mai’r gwasanaeth tân oedd yn gyfrifol am ddod i benderfyniadau o’r fath, nid yr awdurdod nag eu haelodau.
Yn sgil hynny, daeth yr Ombwdsmon i’r canlyniad y gallai’r aelod fod wedi torri’r Cod Ymddygiad ac wedi defnyddio ei rôl fel aelod o’r awdurdod er budd ei gleientiaid mewn dadl sifil breifat.
Dywedodd yr Ombwdsmon bod tôn cyfathrebiaeth Mr Van-Rees i’r achwynwr yn “anaddas” hefyd.
Meddai: “Yn ystod yr archwiliad, fe wnaeth yr aelod sawl sylw am iechyd meddwl yr achwynwr, ac roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod rhain yn amharchus a gwahaniaethol o ystyried anabledd posib.”