Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd “yn gandryll” gan na fydd rhai ohonyn nhw’n gallu graddio ar amser na gyda’u graddau terfynol yn sgil boicot marcio.

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd gadarnhau y bydd rhai myfyrwyr yn graddio heb ddosbarth penodol i’w gradd yr wythnos ddiwethaf, tra bod Prifysgol Abertawe hefyd wedi dweud na fydd tua 70 o fyfyrwyr yn graddio ar amser.

Mae boicot marcio Undeb Prifysgol a Cholegau (UCU) yn rhan o ddadl dros dâl sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers pum mlynedd.

Dydy myfyrwyr yng Nghaerdydd ddim yn hapus efo penderfyniad yr Is-ganghellor i newid y broses asesu, sy’n golygu bod gwaith rhai myfyrwyr wedi cael ei farcio gan bobol sydd ddim yn arbenigwyr a pheth o’r gwaith heb ei farcio o gwbl.

‘Tanseilio’ cymwysterau

Mae’r Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol yng Nghaerdydd, a dros Gymru a’r Deyrnas Unedig, yn cefnogi aelodau’r UCU sy’n streicio.

Dywedodd Jazz Walsh, sydd yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Gwleidyddiaeth ac Economeg, bod methu â derbyn eu canlyniadau yn gwylltio hi ac eraill.

“Efallai y bydd yn ymddangos yn ddibwys i rai, ond mae nifer ohonom ni methu graddio,” meddai.

“Mae’r cymwysterau rydyn ni wedi gweithio mor galed tuag atyn nhw, ac wedi talu gymaint amdanyn nhw, wedi cael eu dinistrio a’u tanseilio’n llwyr.

“Dylwn i fod yn mynd i wneud fy ngradd meistr ym mis Medi, ond mae fy nyfodol yn ansicr oherwydd bod y canlyniadau wedi cael eu gohirio.

“Pe taswn i wedi talu am y brifysgol ar gerdyn credyd fyswn i’n adrodd hyn fel twyll nawr.

“Y peth gwaethaf yw bod y Brifysgol yn gwybod am y broblem hon ers amser hir, a dydyn nhw dal heb ddod i ddatrysiad gyda staff i sicrhau eu bod nhw’n cael eu trin a’u talu’n deg, dyw e ddim yn gofyn lot.”

‘Torcalonnus’

Dywedodd llefarydd yr Undeb Prifysgol a Cholegau yng Nghaerdydd bod eu haelodau’n teimlo’n ofnadwy dros y myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y ddadl.

“Rydyn ni wedi bod yn ymladd am bum mlynedd nawr, rydyn ni wedi trio bob opsiwn arall cyn defnyddio’r ‘opsiwn niwclear’ gyda boicot asesu,” meddai Dr Andy Williams.

“Mae’n dorcalonnus gweld bod ein cyflogwyr dal i ymddwyn fel hyn.

“Rydyn ni wedi dod i arfer gyda’r diffyg gofal mae ein rheolwyr yn ei ddangos tuag at eu staff, yn anffodus.

“Ond mae ein haelodau wedi’u synnu a’u ffieiddio at y diffyg parch maen nhw’n ei ddangos tuag at fyfyrwyr nawr, a’r agwedd ddi-hid maen nhw wedi’i chymryd wrth ddinistrio safonau academaidd a thanbrisio graddau myfyrwyr er mwyn osgoi talu eu staff yn deg a gwella ein hamodau.

“Eto, rydyn ni’n galw ar reolwyr Prifysgol Caerdydd i annog y Gymdeithas Cyflogwyr Prifysgol a Cholegau i wneud cynnig addas a dod â hyn i ben unwaith ac am byth.”

‘Marcio cyn gynted â phosib’

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd eu bod nhw’n “boenus o ymwybodol” bod y myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio’n “teimlo’n siomedig iawn, yn bryderus ac yn ofidus”.

“Gwyddom fod y sefyllfa hon yn cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Rydym ni hefyd wedi ein siomi o weld effaith yr anghydfod cenedlaethol hwn ar adeg pan ddylai ein myfyrwyr fod yn dathlu diwedd llwyddiannus eu profiad israddedig ac yn edrych ymlaen at eu camau nesaf.

“Byddwn yn gwneud popeth posibl i gael gwaith ein myfyrwyr wedi’i farcio cyn gynted â phosibl, gan gynnal safonau academaidd, a byddwn yn darparu marciau llawn a dosbarthiadau cyn gynted ag y gallwn.

“Mae hwn yn anghydfod cenedlaethol. Ni all y Brifysgol ddatrys y materion hyn yn annibynnol. Rydym wedi ymrwymo i’r broses genedlaethol o ymgynghori ar y cyd ac i ddod o hyd i ateb fforddiadwy sy’n cydnabod cyfraniad gwerthfawr ein staff.

“Gobeithiwn y gellir dod i gasgliad i’r cyfnod hwn o weithredu diwydiannol, er budd pob aelod o’n cymuned.”

Ni fydd Prifysgol Caerdydd yn gwneud sylw ar achosion unigol, ond maen nhw’n annog myfyrwyr sydd â phryderon i gysylltu â’u hadran neu’r llinell gymorth Marchnata a’r Boicot Asesu.