Noder: Mae’r erthygl hon yn trafod pynciau a allai achosi pryder

Mae cynghorydd dewr wnaeth geisio cymryd ei fywyd ei hun yn dweud mai ei nod yw cael gwared ar y stigma sydd ynghlwm â phroblemau iechyd meddwl o fewn a thu hwnt i Gyngor Sir Dinbych.

Fe wnaeth y Cynghorydd Chris Evans, 47, geisio cymryd ei fywyd ar ôl i anghydfod yn ei waith ei arwain i’w garej yn ystod oriau mân y bore un diwrnod ym mis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd Chris bod y ffaith bod ei gyflogwr yn gwrthod derbyn ei dyslecsia a’i nodweddion wedi achosi iddo ddioddef ag iselder.

Ar ôl cusanu hwyl fawr i’w blant tra’u bod nhw’n cysgu, fe wnaeth Chris, sy’n dad i bedwar o blant ac dau lys blentyn, drio rhoi’r gorau ar ei boen.

Yn wyrthiol, llwyddodd Chris, oedd yn arfer codi pwysau, i ryddhau ei hun.

“Yn cerdded i’r garej, roeddwn i’n teimlo rhyddhad,” meddai.

“Doedd gen i ddim ofn. Roedd hi fel bod pwysau wedi codi oddi ar fy ysgwyddau. Ond wrth hongian yno, gwelais lun o fy merch ar y wal.”

Nawr mae Chris, sy’n gynghorydd yn Nhremeirchion, eisiau codi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl o fewn a thu allan i Gyngor Sir Dinbych.

Roedd Chris, sydd wedi byw yn Rhuallt ers deng mlynedd gyda’i bartner Susan, yn dioddef gyda dyslecsia heb gael diagnosis.

Fe wnaeth yr anhawster dysgu olygu ei fod wedi’i chael hi’n anodd yn yr ysgol ac wrth weithio, a phan na roddwyd darpariaeth iddo yn ei waith, dywedodd Chris ei fod yn teimlo’n “ddiwerth”.

Mae’r gweithiwr undeb a’r cyn-fecanydd yn dweud ei fod wedi trio cymryd ei fywyd bymtheg mlynedd yn ôl wrth gerdded ei gi hefyd.

‘Gall pawb ddioddef’

Ond nawr, nod Chris yw helpu eraill sy’n dioddef gyda materion iechyd meddwl.

“Dechreuodd pan oeddwn i yn fy arddegau,” meddai Chris.

“Roeddwn i’n dioddef gyda dyslecsia heb gael diagnosis. Pan oeddwn i’n 15 neu 16 oed, roeddwn i’n crio yn fy llofft a doedd mam a dad ddim yn gwybod beth oedd yn bod efo fi.

“Pan oeddwn i’n hŷn, roedd gen i dymer drwg a byddwn i’n gwylltio. Fy iechyd meddwl oedd yn gyfrifol am hynny, a pheidio gwybod sut i ddelio â phethau.

“Dydy pobol ddim yn meddwl y gall rhywun fel fi ddioddef gyda phroblemau iechyd meddwl.

“Mae gen i farf fawr. Dw i’n fawr ac yn llawn tatŵs. Dw i’n ugain stôn. Roeddwn i’n arfer codi pwysau, ond pan dw i’n dweud wrth bobol be ddigwyddodd, maen nhw’n dweud: ‘Dwyt ti ddim fel yna. Ti’n ddyn mawr’.

“Gall unrhyw un gael problemau iechyd meddwl. Mae gan bawb faterion iechyd meddwl. Sut ydych chi’n delio â nhw ydy’r peth.”

Cael gwared ar y stigma

Mae Chris bellach â chymhwyster cymorth cyntaf iechyd meddwl, ac wedi’i hyfforddi i adnabod a helpu eraill sy’n dioddef â chyflyrau fel gorbryder ac iselder.

Dywedodd Chris ei fod wastad wedi bod yn onest am ei iechyd meddwl, a’i fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i drefnu gweithdai iechyd meddwl i gynghorwyr a staff.

“Dw i eisiau amlygu bod y materion o amgylch iechyd meddwl yn wir,” meddai,

“Dydy pobol ddim yn gwneud pethau fyny. I fi, dylen ni gyd fod yn fwy empathetig a chael gwell dealltwriaeth.

“Weithiau’r oll mae pobol ei angen yw i rywun ofyn sut maen nhw, sut maen nhw’n ymdopi.

“I fi, dyna rydyn ni ei angen fel cymdeithas, a dyna sydd ei angen o fewn Cyngor Sir Dinbych.

“Does dim bwys i ba grŵp rydych chi’n perthyn, Ceidwadwyr, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid [Cymru]. Rydyn ni gyd angen gofyn i’n gilydd sut ydyn ni.”

Ychwanegodd: “Mae yna stigma o amgylch materion iechyd meddwl o ran bod pobol yn meddwl eich bod chi methu delio efo pethau, ond yn fy marn i, mae’n rhoi mwy o wydnwch i chi.

“Dw i wedi codi o fflamau fy iechyd meddwl.

“Dw i wedi gwneud cymorth cyntaf iechyd meddwl er mwyn trio deall beth yw fy iechyd meddwl.

“Nawr dw i’n gallu adnabod pobol eraill â phroblemau iechyd meddwl.

“Mae dynion yn cael eu gweld yn llai pan maen nhw’n dioddef o faterion iechyd meddwl.

“Dw i eisiau helpu efo’r stigma yna.”