Yn ôl Duolingo, mae ganddyn nhw oddeutu 2.1 miliwn o ddysgwyr Cymraeg, ac mae’r nifer yn cynyddu o hyd.

Rhwng 2018-19 a 2019-20, bu cynnydd o 32% yn nifer y dysgwyr Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae’r cynnydd diweddar ymysg pobol ifanc yn arwyddocaol, yn ôl Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan, Helen Prosser.

Ond pa adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr ar bob lefel?


  1. Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Heb os, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw’r man cychwyn ar gyfer adnoddau i ddysgwyr.

Sefydlwyd y ganolfan yn 2016, ac mae’n cynnig cyfleoedd amrywiol i bobol ddysgu a mwynhau’r Gymraeg, gan gynnwys:

Mae gan y ganolfan lu o adnoddau gan gynnwys cwisiau, dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, cyrsiau adolygu ar-lein a mwy.


2. Thirty One Ways to Hoffi Coffi

Dim ond y llynedd y dechreuodd Joshua Morgan ddysgu siarad Cymraeg, ac mae eisoes wedi cyhoeddi’r llyfr defnyddiol Thirty One Ways to Hoffi Coffi.

Wrth ymdrechu i ddysgu siarad Cymraeg, dechreuodd yr arlunydd o Gaerdydd wneud lluniau cofiadwy i gyd-fynd ag ambell frawddeg neu ddywediad.

Doedd Joshua Morgan ddim yn bwriadu rhannu ei ddarluniau â neb tu hwnt i’w deulu a’i ffrindiau, ond mae ei waith bellach yn helpu dysgwyr o bob cwr o’r wlad.

Mae’r llyfr yn cynnwys pob math o gymeriadau ac anifeiliaid yn mwynhau coffi mewn gwahanol ffyrdd.

Ond mae ganddo hefyd gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol ble mae’n creu darluniau i fynd gydag ymadroddion.

Gallwch weld ei ddarluniau ar Instagram, Twitter a Facebook, ac mae Thirty One Ways to Hoffi Coffi ar gael yma.

Dysgu Cymraeg trwy sgetsys ar Instagram

Elin Wyn Owen

Mae prosiect ‘Sketchy Welsh’ yn defnyddio gwaith darlunio er mwyn dysgu ymadroddion yn y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

3. Lingo+

Fis diwethaf yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, lansiodd cwmni Golwg adnodd newydd i helpu siaradwyr newydd i ddysgu Cymraeg.

Lansiwyd gwefan Lingo360 yn 2022, a blwyddyn yn ddiweddarach fe laniswyd Lingo+, sef gwefan sy’n gartref i straeon y cylchgrawn poblogaidd Lingo Newydd.

Straeon difyr am Gymru sy’n llenwi tudalennau Lingo Newydd, o grefftau i fwyd, ac o arddio i lyfrau, ond wrth i’r adnodd fynd ar-lein mae’n cynnig mwy na straeon print mewn iaith addas i ddechreuwyr lefel Mynediad, a dysgwyr Canolradd ac Uwch.

Ar Lingo+, mae modd clywed yr erthyglau ar lafar, ochr yn ochr â darllen y testun ar y sgrîn.

Mae rhestr eirfa (gogleddol a deheuol) wrth ochr y straeon, ac mae modd i ddysgwyr roi eu sylwadau ar waelod yr erthyglau, gan ymarfer eu sgrifennu.

Pris Lingo+ yw £12 am danysgrifiad blwyddyn o’r fersiwn ddigidol, neu £18 i dderbyn copi print o’r cylchgrawn ochr yn ochr â’r adnodd digidol newydd.

Lansio Lingo+ yn Llanymddyfri

Mae adnodd newydd ar gael heddiw (dydd Iau, Mehefin 1) i helpu siaradwyr newydd i ddysgu Cymraeg

4. Cymunedau dysgu Cymraeg y cyfryngau cymdeithasol

Mae’n debyg y bydd nifer o ddysgwyr yn ymwybodol fod grwpiau i ddysgwyr ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond dyma ein hawgrymiadau ni:

  • Dw i’n dysgu Cymraeg / I’m learning Welsh – mae gan y grŵp dros 21,000 o aelodau ac mae’n ofod i ddysgwyr uno, dysgu oddi wrth ei gilydd a threfnu cyfarfodydd neu grwpiau adolygu anffurfiol. Mae’r grŵp hefyd yn agored i siaradwyr Cymraeg rhugl er mwyn iddyn nhw allu cyfarfod a helpu dysgwyr newydd.
  • Duolingo Welsh Learners – Dysgwyr Cymraeg Duolingo – sefydlwyd y grŵp ym mis Ionawr 2015 i ymgyrchu dros gwrs Cymraeg ar Duolingo. Ers rhyddhau’r cwrs ei rôl nawr yw cefnogi defnyddwyr y cwrs Cymraeg ar Duolingo. Mae’n ofod i rannu eich profiadau, cywiriadau ac awgrymiadau.
  • Clwb Darllen Cymraeg – i’r rheiny sydd ychydig ymhellach ar eu taith efallai, beth am ymuno â’r Clwb Darllen Cymraeg ar Facebook? Bwriad y clwb yw rhannu’r wefr o ddarllen a chyd-drafod llyfrau Cymraeg mewn ffordd adeiladol, barchus a chwrtais!
  • Learn Welsh / Dysgu Cymraeg ar Reddit – mae gan y subreddit 16,000 ddysgwyr ac mae’n lle da i drafod unrhyw beth ynghylch yr iaith, yn ogystal â gofyn cwestiynau, yn enwedig os ydych eisiau ateb cyflym i’ch cwestiwn.

5. Say Something in Welsh

Cwrs sydd yn canolbwyntio ar helpu pobol i siarad a deall Cymraeg ydi Say Something in Welsh.

Mae’n osgoi’r rheolau gramadegol cymhleth ac nid oes rhaid darllen nag ysgrifennu.

Mae’r cwrs yn darparu ffeiliau MP3 i’w lawrlwytho am ddim, gyda’r cwrs cyntaf (25 gwers), sesiynau ymarfer ac unedau geirfa hefyd i gyd ar gael yn rhad ac am ddim.


6. Rhestrau chwarae

Ffordd ychydig yn wahanol i’r arfer o ddysgu’r iaith yw trwy restrau chwarae platfformau fel Spotify, ble mae cannoedd o ddewis, o rai swyddogol Spotify i rai gan Gymry.

Wrth wrando ar restrau chwarae Spotify, mae’n bosib darllen geiriau’r caneuon hefyd.

Neu beth am wrando ar bodlediadau Cymraeg?

Mae’n bosib pori trwy’r holl bodlediadau iaith Gymraeg yma, gan gynnwys podlediad golwg360.