Bydd cyfarfod cyntaf ‘Pwyllgor Diben Arbennig Cymru’r Ymchwiliad Covid-19’ yn cael ei gynnal heddiw dydd Mawrth (Gorffennaf 11).

Daw hyn wythnos wedi’r gwrandawiadau tystiolaeth cyntaf gyda thystion o Gymru yn ystod Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, a Dr Andrew Goodall, a oedd yn brif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ymddangos gerbron yr ymchwiliad a gafodd ei gadeirio gan y Farwnes Hallett.

Yna bu’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a’r cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, hefyd yn cael eu cwestiynu.

‘Gwersi yn parhau heb eu dysgu’ heb ymchwiliad

Wrth siarad cyn y cyfarfod cyntaf, dywedodd Adam Price, cynrychiolydd Plaid Cymru ar y pwyllgor: “Dylid craffu ar benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru, yng Nghymru.

“Nid yw’r hyn yr ydym wedi’i weld a’i glywed wythnos diwethaf yn Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig wedi gwneud fawr ddim i brofi fel arall.

“Dogfennau ddim wedi cael eu darllen, cyngor ddim wedi eu cymryd, a strategaethau heb eu diweddaru ers dros ddegawd – mae’r hyn sydd wedi ei ddatgelu am ddiffyg parodrwydd pandemig Llywodraeth Cymru wedi bod yn frawychus.

“A dyw hyn ddim wedi crafu’r wyneb.

“Yn y diwrnod a hanner yn unig a roddwyd i ddim ond pump o chwaraewyr allweddol Cymru roi eu tystiolaeth, mae mwy o gwestiynau nag atebion.

“Er mai cylch gorchwyl y Pwyllgor Diben Arbennig yw edrych ar unrhyw fylchau a nodwyd yn Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig, ni all fyth gwblhau ei waith tan ar ôl i Ymchwiliad y Deyrnas Unedig ddod i ben. Gallai hyn fod yn flynyddoedd i ffwrdd!

“Heb ymchwiliad Covid penodol i Gymru bydd gormod o wersi – cadarnhaol a negyddol – yn parhau heb eu dysgu a bydd gormod o gwestiynau yn mynd heb eu hateb.

“Nid yw’n rhy hwyr i Lywodraeth Cymru newid eu meddyliau ac agor eu hunain i graffu llawn drwy gynnal ymchwiliad Covid penodol i Gymru.”

Swyddogion o Gymru yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid y DU

Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, a Dr Andrew Goodall, a oedd yn brif weithredwr GIG Cymru, yn ymddangos gerbon yr ymchwiliad

Llafur yn osgoi cynnal ymchwiliad Covid annibynnol i Gymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a’r cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn mynd gerbrobn ymchwiliad Covid y DU yfory