Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio cyhoeddi adroddiad am orlifoedd, wedi i rannau o’r gogledd ddwyrain ddioddef llifogydd wedi storm dros y penwythnos.

Cafodd cartrefi mewn rhannau o Wrecsam a Sir y Fflint eu heffeithio gan ddŵr wedi cael ei lygru â charthion a llifogydd wedi glaw trwm ddydd Sadwrn (Gorffennaf 8).

Yn ôl cynghorydd yn Wrecsam, bu’n rhaid i deulu gael eu hadleoli gan fod eu cartref wedi cael ei lenwi gyda dŵr â charthion ynddo.

‘Annerbyniol’

Yn y cyfamser, mae llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders, wedi dweud ei bod hi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad ar orlifoedd ers misoedd.

“Drwy gyhoeddi’r adroddiad ym mis Mawrth, fel oedd y bwriad gwreiddiol, byddai hi wedi bod yn fwy tebygol y gellid bod wedi gweithredu i leihau’r risg o lifogydd mewn tai,” meddai.

“Be sy’n ychwanegu at boenau trigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn yw bod y dŵr wedi cael ei lygru â charthion, sy’n annerbyniol.

“Mae’r ffaith bod yr adroddiad mawr ei angen yma wedi cael ei ohirio am chwe mis nawr, heb ddim rheswm amlwg, yn dangos nad yw Llafur yn cymryd llifogydd na charthion o ddifrif yng Nghymru.

“Mae’n amlygu’r ffaith nad oes gan Lafur gynllun i lanhau carthion Cymru.”

‘Maes ffocws allweddol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod mynd i’r afael â gorlifoedd yn “faes ffocws allweddol” yn ei gwaith i wella ansawdd dŵr.

“Byddwn yn cryfhau’r monitro o ansawdd dŵr wrth i ni geisio dynodi mwy o afonydd a llynnoedd Cymru â statws dŵr ymdrochi.”

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid a rheoleiddwyr dŵr i adnabod a gweithredu datrysiadau cynaliadwy i wella ansawdd dŵr fyddai’n gwella bioamrywiaeth a helpu’r argyfwng newid hinsawdd hefyd, meddai.