Mae angen i gynghorwyr alw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros gyfiawnder, medd un cynghorydd o Wynedd.

Daw sylwadau Elfed Wyn ap Elwyn, sy’n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog fel cynghorydd Plaid Cymru, wedi iddo wneud rhybudd o gynnig i Gyngor Gwynedd yn galw am wthio’r mater yn genedlaethol.

Yn ôl y cynghorydd, “hwn ydy un o’r camau pwysicaf fysen ni’n gallu eu gwneud fel cenedl”.

Rhwng 2010 a 2022, fe wnaeth 21 o 36 llys troseddol Cymru gau, sydd gyfystyr â 58% o’r llysoedd.

Mae’r cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol wedi gostwng dros y degawd diwethaf hefyd, a’r llynedd fe wnaeth adolygiad annibynnol awgrymu bod angen o leiaf £135 miliwn ychwanegol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod y proffesiwn cymorth cyfreithiol yn cael yr adnoddau priodol.

Yn ôl Elfed Wyn ap Elwyn, mae hyn wedi golygu bod llawer yn dioddef problemau iechyd meddwl wrth boeni am achosion yn y llys.

“Cam pwysicaf fel cenedl” 

Nod Elfed Wyn ap Elwyn ydy galw am ddatganoli grymoedd dros y llysoedd, carchardai, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a materion cyfiawnder eraill, a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.

“Hwn ydy un o’r camau pwysicaf fysen ni’n gallu eu gwneud fel cenedl yn y blynyddoedd nesaf, sef cael system gyfreithiol ein hunain,” meddai wrth golwg360.

“Unwaith mae o’n dod, dylen ni ymfalchïo ynddo oherwydd bod gan Gymru draddodiad o gael cyfreithiau modern adeg Hywel Dda.

“Er nad ydym wedi cael y system gyfreithiol yn iawn ers y Deddfau Uno [yn 1536] mae’n hen bryd i ni ailgodi system gyfreithiol ein hunain a bod yn falch ohoni, gweithio i siapio hi’n iawn i wasanaethu pobol Cymru.”

“Siwtio pobol y wlad”

Yn ôl Elfed Wyn ap Elwyn fyddai datganoli pwerau yn well i bobol Cymru am nifer o resymau.

“Mae’n golygu y bysen ni’n gallu gwneud newidiadau pendant yn y gyfraith sy’n siwtio pobol y wlad yma,” meddai.

“Rydym yn wlad eithaf gwledig a bydden yn gallu ail edrych ar sut mae llysoedd barn yn gweithio.

“Bysa fo’n rhoi datganoli ar ei lwybr iawn, yn lle bod y Senedd mewn stad o limbo fel mae hi weithiau.

“Mae cael Senedd heb gael system gyfreithiol rywsut fel cael car heb injan, car wedi colli darn pwysig ohono fo.

“Dydy rhywun methu rhedeg y system yn iawn oni bai fod gen ti bob darn mae angen i’r llywodraeth weithredu.

“Dw i’n meddwl bod peidio cael system gyfreithiol yn golygu nad ydym yn medru rhedeg pethau mor effeithiol yn y wlad yma.

“Mae rhywun yn gallu edrych ar yr Alban a gweld ei fod yn naturiol cael hunan lywodraeth a hefyd system gyfreithiol ei hunain hefyd.

“Mae Gogledd Iwerddon efo [system eu hunain], mae Ynys Manaw efo. Mae hyd yn oed Ynysoedd y Sianel a rhai llefydd yn Lloegr efo grym dros gyfiawnder neu elfennau o gyfiawnder.”

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gwneud gwaith i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder i Gymru.

Fis Ebrill, fe wnaethon nhw gomisiynu amrywiaeth o waith ym meysydd cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf i ddeall sut y gallai datganoli’r meysydd hyn ddigwydd yn ymarferol, a sut i sicrhau effaith fwyaf cadarnhaol posib o ddatganoli’r gwasanaethau i Gymru.

Datganoli: Pa rymoedd sydd gan Lywodraeth Cymru?

Fel y dywedodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, mae datganoli yn “broses, nid digwyddiad”