Dros y blynyddoedd, mae llywodraeth yng Nghymru wedi newid yn sylweddol, ac un o’r newidiadau pwysicaf yw datganoli.
Fel y dywedodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, mae datganoli yn “broses, nid digwyddiad”.
Felly, dyma drosolwg byr o ddatganoli dros y degawdau gan golwg360…
Beth yw datganoli?
Mae datganoli’n ymwneud â sut mae seneddau a llywodraethau’n gwneud penderfyniadau.
Yn y Deyrnas Unedig, mae hyn yn golygu fod cyrff deddfwriaethol a gweithrediadaethau ar wahân yng Nghymru, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.
Felly yng Nghymru, ein corff deddfwriaethol yw Senedd Cymru, ac ein gweithrediadaeth yw Llywodraeth Cymru.
Pam bod gennym ni hyn?
Mae datganoli yn golygu fod y broses gwneud penderfyniadau’n symud yn agosach at y bobol – dinasyddion Cymru yn yr achos hwn – ac yn fwy democrataidd.
Mae datganoli ar wahanol ffurfiau wedi bodoli yn y Deyrnas Unedig ers degawdau ac mae’n gyffredin mewn rhannau eraill o’r byd, ond mae trefniant presennol datganoli yn y Deyrnas Unedig yn dyddio yn ôl i’r 1990au.
Ym 1997, dewisodd pleidleiswyr greu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru, ond doedd hi ddim yn broses hawdd.
Cafwyd y bleidlais gyntaf ar ddatganoli yng Nghymru ar Mawrth 1, 1979.
Roedd hyn yn dilyn y Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad ym 1973, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Crowther ac wedyn yr Arglwydd Kilbrandon, ac argymhelliad y Comisiwn oedd creu cyrff etholedig ar gyfer yr Alban a Chymru.
Mewn refferendwm a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1979, gwrthododd etholwyr Cymru gynlluniau datganoli o fwyafrif o 4 i 1.
Roedd hi’n ymddangos i lawer ar y pryd mai dyma oedd diwedd datganoli, ond ar Fedi 18, 1997, cynhaliwyd refferendwm arall.
Dim ond 6,721 o bleidleisiau oedd y mwyafrif cyffredinol o blaid, ond roedd hynny’n ddigon i newid trywydd hanes Cymru, ac ym 1998, pasiodd Senedd San Steffan Ddeddf Llywodraeth Cymru gan osod seiliau cyfreithiol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.
Beth sydd wedi’i ddatganoli i Gymru?
Mae nifer o bwerau wedi cael eu datganoli i Gymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a hyfforddi, llywodraeth leol, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd, trafnidiaeth, rhai trethi a chwaraeon a’r celfyddydau, a’r iaith Gymraeg.
Fodd bynnag, mae rhai pwerau wedi eu ‘cadw’n ôl’ fel cyfiawnder a phlismona, rhai elfennau nawdd cymdeithasol, amddiffyn, materion tramor, mewnfudo, polisi masnach, y cyfansoddiad a darlledu.
Datganoli Cymreig sy’n parhau i fod y mwyaf cyfyngedig o’r tair system bwrpasol o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r model o gadw pwerau a roddwyd ar waith gan Ddeddf Cymru 2017 yn cynnwys llawer mwy o gymalau na system ddatganoledig yr Alban.
Pam fod cadw cyfiawnder a phlismona yn ôl yn bwnc llosg yng Nghymru?
Un o’r ardaloedd polisi mwyaf dadleuol yw polisi cyfiawnder.
Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, dydy Cymru ddim yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân gyda’i system gyfreithiol, yr heddlu a llysoedd ei hun; mae’n rhan o’r un awdurdodaeth â Lloegr, a roddwyd ar waith gan Harri’r VIII yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.
Gyda seneddau Cymru a San Steffan bellach yn creu deddfau o fewn un awdurdodaeth, gellid dadlau mai datganoli Cymreig yw’r mwyaf cymhleth o’r tair system.
Daeth comisiwn annibynnol i’r casgliad bod y trefniant hwn yn “methu pobol Cymru”, ac argymell datganoli polisi cyfiawnder – argymhelliad a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Senedd.
Yn ogystal â phwerau dros gyfiawnder, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio setliad cyfansoddiadol newydd i’r Deyrnas Unedig a fyddai’n cynnwys llawer mwy o bwerau i’r Senedd.
Beth am y pwerau eraill sydd wedi eu cadw yn ôl?
Mae’r ymgyrch dros ddatganoli darlledu “gam yn nes” wedi i Lywodraeth Cymru ddewis panel arbenigol y llynedd er mwyn edrych ar bwerau cyfathrebu a darlledu Cymru, meddai Plaid Cymru.
Roedd hyn yn garreg filltir i’r blaid gan eu bod wedi bod yn ymgyrchu dros ddatganoli darlledu i Gymru ers amser maith.
Mae pleidiau a grwpiau hefyd wedi bod yn ymgyrchu dros ddatganoli Stad y Goron i Gymru.
Y gred yw y dylai Stad y Goron gyfan gael ei gosod dan berchnogaeth ddemocrataidd y bobol, fel y gall yr elw o adnoddau naturiol Cymru ddychwelyd at bobol Cymru yn hytrach na’r Goron.