Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’n chwilio am arweinwyr ifanc i gymryd rhan mewn rhaglen saith mis.
Nod Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol ydy chwilio am bobol ifanc rhwng 18 a 30 oed sydd eisiau sicrhau newid cymdeithasol parhaol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth llesiant Cymru, deddf sy’n diogelu buddiannau pobol heddiw, pobol yn y dyfodol a’r blaned.
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Williams, bod y rhai fydd yn rhan o’r academi mewn sefyllfa “unigryw” i gydweithio fel rhan o fudiad byd-eang cenedlaethau’r dyfodol a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau – “i sicrhau’r newid brys a thrawsnewidiol sydd ei angen ar Gymru”.
“Mae bod yn rhan o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn golygu y byddwch yn cyfrannu nid yn unig at Gymru well yn awr, ond at ddyfodol gwell i bawb.”
‘Cyfle gwych’
Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i ddod yn rhan o’r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr.
Dyma fydd y trydydd tro i’r academi gael ei chynnal, ac mae’r cyn-fyfyrwyr wedi siarad mewn cynadleddau hinsawdd, wedi ymuno â byrddau cynghori Llywodraeth Cymru, wedi dod yn swyddogion etholedig ac wedi cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol y Deyrnas Unedig.
Ymunodd Nirushan Sudarsan ag Academi 2021-2022 ac mae bellach yn gyfarwyddwr Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange CIC a Ffair Jobs CIC, menter gymunedol sy’n cynnwys trigolion ac arweinwyr yn Butetown, Grangetown a de Caerdydd.
“Mae’r Academi wedi bod yn gyfle gwych i gysylltu ag arweinwyr y dyfodol ledled Cymru i ddysgu a hybu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol,” meddai.
“Fel y genedl gyntaf yn y byd i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, mae gennym gyfle unigryw nid yn unig i feddwl am genedlaethau’r dyfodol ond i wneud newidiadau llesol ac ymarferol yn awr fel y gallwn adeiladu gwell dyfodol i bawb.”
‘Hyrwyddo pwysigrwydd y celfyddydau’
Am y tro cyntaf eleni, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn noddi dau le i bobol sy’n gweithio yn sector y celfyddydau, gan gynnwys staff mewn sefydliadau celfyddydol, neu’r rhai sy’n gweithio fel artistiaid, ymarferwyr creadigol neu weithwyr llawrydd.
Ymunodd Judith Musker Turner, Rheolydd Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru, ậ’r Academi yng ngharfan 2021-2022.
“Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol rydym yn falch iawn o fod yn noddi dau le ar gyfer arweinwyr celfyddydol y dyfodol ar yr Academi bwysig hon, sy’n rhoi llais i bobol ifanc o gefndiroedd amrywiol ac sy’n datblygu sgiliau ein harweinwyr y dyfodol,” meddai Judith Musker Turner.
“Mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn allweddol i ddatrys llawer o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cymdeithas, a bydd y cyfranogwyr dethol yn gallu hyrwyddo pwysigrwydd y celfyddydau i’r Ddeddf yn ogystal â defnyddio’r dysgu y maent yn ei ddatblygu drwy’r Academi i ysgogi newid yn eu sefydliadau neu eu cymunedau hwy eu hunain.”
‘Cymdeithas decach’
Eleni, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi rhoi £40,000 i gynorthwyo’r academi i recriwtio pobol ifanc â nodweddion gwarchodedig.
“Bydd ein cefnogaeth i’r rhaglen arweinyddiaeth yn darparu cyfleoedd i bobol ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru,” meddai Tony Smith, Prif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality
“Un o’n nodau yw helpu i greu cymdeithas decach drwy gefnogi symudedd cymdeithasol.
“Rydym wedi ymrwymo i Gymru a’i phobol ifanc ac yn falch o gael y cyfle hwn i helpu’r academi arweinyddiaeth a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.”
Mae ceisiadau ar agor yn barod, a dylai ymgeiswyr o sector y celfyddydau sy’n dymuno trio am le wedi’i noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ymgeisio drwy’r broses recriwtio agored.